Neidio i'r prif gynnwy

Enillydd

Carolyn Platt: Ysgol Bryn Elian, Bae Colwyn

Mae Carolyn yn athrawes hynod ysbrydoledig, ymroddedig, gofalgar, cynhwysol a thosturiol sy’n cael ei charu gan ddisgyblion, cydweithwyr, rhieni a chymuned ehangach Ysgol Bryn Elian.

Mae Carolyn yn goruchwylio’r sylfaen adnoddau sydd ynghlwm ag Ysgol Bryn Elian, sy’n galluogi dysgwyr ag anawsterau dysgu difrifol i gael mynediad i addysg brif ffrwd.

Mae'n cyfathrebu'n rheolaidd iawn gyda rhieni ac yn dangos gofal rhagorol am y disgyblion y mae'n eu cefnogi. Yn ei hystafell ddosbarth, mae'n defnyddio dull amlsynhwyraidd, ac mae wedi lansio darpariaethau a chyfleusterau anhygoel dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf.