Neidio i'r prif gynnwy

Teilyngwr

Mae Tracy yn ymdrechu i gael y canlyniadau gorau posibl i bob disgybl ac mae'n un o'r aelodau staff mwyaf gofalgar, brwdfrydig a chefnogol. Mae ganddi angerdd dros weithio gyda phobl ifanc ymhell y tu hwnt i'r hyn a welir fel arfer mewn llawer o weithwyr proffesiynol, ac mae ei hagwedd bositif  yn sicrhau y caiff ei gwaith ei wneud er budd  addysg. Mae ganddi ddawn naturiol o ymgysylltu â phobl ifanc ac mae hi bob amser yn barod i helpu mewn unrhyw ffordd y gallai hi , gan fynd y tu hwnt  yn aml i ddisgyblion a hefyd i staff. Mae ei brwdfrydedd a'i hangerdd yn heintus, ac mae hi'n hyrwyddwr tanbaid ac angerddol dros bob person ifanc y mae'n  rhoi cefnogaeth.