Neidio i'r prif gynnwy

Teilyngwr

Mae Nerys wedi gwneud cyfraniad sylweddol i lwyddiant yr ysgol yn ystod y blynyddoedd diwethaf ac mae'n arwain ar nifer o brosiectau sy'n aml yn cynnwys mynd â'r plant allan o'r ysgol. Mae'n hawdd iawn i gydweithio â hi ac mae wedi profi ei hun fel arweinydd gyda disgyblion ac ymhlith y staff. Nid oes amheuaeth am ei photensial i ddod yn athrawes. Trwy ei rôl fel cynorthwyydd, treulia amser gwerthfawr gyda'r holl blant a chaniatáu iddynt bennu eu dysgu eu hunain i gyflawni'r canlyniadau gorau posibl.