Neidio i'r prif gynnwy

Enillydd

Mae gan Louise natur gefnogol, gynnes a thosturiol ac mae’n arweinydd drwy esiampl, gyda lles disgyblion wrth wraidd pob penderfyniad a wna. Ei nod yn y pen draw yw arfogi'r holl ddisgyblion â'r offer cywir i sicrhau eu bod yn cyflawni eu potensial academaidd, cymdeithasol a moesol. Mae hi'n gatalydd, yn arloeswr ac yn llywiwr popeth sy'n dda o ran cefnogi disgyblion i chwalu rhwystrau, meithrin gwytnwch a dod yn uchelgeisiol, galluog a llwyddiannus o ran eu dysgu. Nid oes unrhyw ffiniau i’w hymrwymiad a'i phositifrwydd ac mae ei hymdrechion a'i hawydd i fynd y tu hwnt  yn cael eu gwerthfawrogi a'u hadlewyrchu'n fawr gan bawb o'i chwmpas.