Neidio i'r prif gynnwy

Teilyngwr

Chwaraeir Kuljit rhan bwysig wrth gynnal amgylchedd diogel sy’n meithrin ac sy'n hwyluso dysgu ac addysgu effeithiol i'r holl ddisgyblion. Mae'n sbardun allweddol i daith wella sylweddol yr ysgol, gan weithio'n agos gyda staff, disgyblion a rhanddeiliaid i ddarparu amgylchedd ysgogol sydd ag adnoddau da. Fel arweinydd, mae ei etheg gwaith a'i ymrwymiad heb ei ail ac yn aml gellir dibynnu arno i wneud y pethau tu cefn i’r llen na gydnabyddir gyda8 gwobr. Ynghyd â'i wytnwch, agosatrwydd a'i brofiad, mae wedi bod o werth aruthrol ac anhepgor i'r ysgol, gan ddarparu asgwrn cefn sefydlog y mae angen i bob ysgol weithredu'n effeithiol ac yn effeithlon.