Neidio i'r prif gynnwy

Enillydd

Mae David yn arweinydd drwy esiampl ragorol, gan roi lles ac anghenion ei staff, ei ddisgyblion a'u rhieni bob amser wrth wraidd popeth y mae'n ei wneud. Mae'n herio pawb o'i gwmpas i fod yn angerddol ac yn gwerthfawrogi eu barn, eu syniadau a'u harloesedd er mwyn darparu'r ddarpariaeth orau i'w ddisgyblion. Mae'n arweinydd dibynadwy gyda gonestrwydd diamheuol sy’n deall ac yn adeiladu ar anghenion unigol disgyblion. Heb os, mae'n rhagori mewn hyrwyddo llais y disgybl ac mae ganddo bob tro amser i wrando ar staff a'u helpu i ddod yn rhan weithredol o ddatrysiad i sicrhau amgylchedd ysgol hynod gydlynol, effeithiol a chyfeillgar.