Neidio i'r prif gynnwy

Enillydd

Arweinir Catrin drwy esiampl  gyda’i phwyslais bob amser ar y safonau addysg a gynigir yn ei hysgolion, ac mae'n gweithio'n ddiflino i gyflawni'r canlyniadau gorau posibl i'r holl ddisgyblion. Mae hi'n sicrhau bod pob ceiniog yn cael ei gwario'n gyfrifol ac yn ofalus ac mae bob amser yn canolbwyntio ar ddarparu'r adnoddau a'r amodau gorau i ddisgyblion. Mae ei harbenigedd, ei hymroddiad a'i gwybodaeth yn caniatáu i bawb o’r ysgol dderbyn cefnogaeth o'r ansawdd uchaf posibl, ac mae ei dull arloesol o adeiladu tîm yn sicrhau bod pawb sydd o dan ei harweinyddiaeth yn gwneud y pethau iawn ar yr adegau cywir i warantu ffyniant ysgol.