Neidio i'r prif gynnwy

Teilyngwr

Mae gan Ben ddull hynod gynnes a gafaelgar ac mae'n cymryd agwedd gadarnhaol a chreadigol tuag at addysgu a dysgu. Mae'n darparu profiad pwrpasol iawn i bob unigolyn yn ei ddosbarth ac yn defnyddio ei ystafell ddosbarth a'i dîm yn effeithiol i ysbrydoli disgyblion i ymgysylltu a datblygu hyd eithaf eu gallu. Mae amgylchedd ei ystafell ddosbarth yn dathlu llwyddiant yn gyson ac yn sicrhau cysondeb a gall rhagweld anghenion cymhleth iawn mewn disgyblion. Mae pob disgybl yn nosbarth Ben wedi cyflawni cerrig milltir sylweddol o dan ei ofal. Mae bob amser yn meddwl yn ofalus am brofiad pob disgybl trwy gydol y dydd ac yn ysbrydoli ei dîm i fynd y tu hwnt i alw.