Neidio i'r prif gynnwy

Teilyngwr

Mae Alison yn gyson yn mynd y tu hwnt i ddisgwyliadau i sicrhau y caiff pob disgybl yn ei dosbarth ei gyfareddu , ei ysbrydoli a'i hysgogi i ddysgu. Mae'n arwain drwy esiampl ac mae wedi ymrwymo i roi'r amgylchedd dysgu gorau posibl i'w dosbarth lwyddo. Mae'r disgyblion wrth eu boddau yn dod i'r ysgol, sy'n caniatáu iddynt ddod yn unigolion hapus, hyderus ac aelodau gwerthfawr o gymdeithas. Maehefyd yn rheoli tîm o staff cymorth ac yn sicrhau eu bod yn cael cefnogaeth dda bob amser, gan roi eu hanghenion uwchlaw ei hanghenion hi. Mae hi'n arweinydd  i staff ac mae ei harfer da  yn yr ystafell ddosbarth wedi ysbrydoli eraill o'i chwmpas.