Neidio i'r prif gynnwy

Enillydd

Mewn ardal gymharol ddifreintiedig, mae Tregatwg yn cynnig amgylchedd dysgu dynamig gyda llesiant wrth galon y cyfan. Mae’r disgyblion yn profi ‘Cychwyn Egnïol’, dawnsio, ioga a llawer mwy.

Mae Tregatwg hefyd wedi cyfl wyno cynllun rhannu bwyd i helpu teuluoedd yn ystod cyfnodau anodd. Mae hyn yn sicrhau bod disgyblion yn cael bwyd iach sydd wedi’i baratoi gan eu cyd-ddisgyblion a staff . Mae’r holl fwyd yn cael ei roi gan archfarchnadoedd lleol ac a fyddai’n cael ei dafl u fel arall. 

Mae’r Ganolfan Gymunedol sy’n gysylltiedig â’r ysgol yn ganolbwynt gweithgarwch, gan gynnig sesiynau Galw i Mewn i Rieni, Grwpiau Mam a’i Phlentyn a llawer mwy. Mae popeth a wneir gan Dregatwg yn cael ei grisialu yn arwyddair yr ysgol “Dysgu a Thyfu Gyda’n Gilydd, Bod ar ein Gorau am Byth”.