Neidio i'r prif gynnwy

Teilyngwr

Mae Tracy yn bennaeth caredig, gofalgar ac ymroddedig sy’n uchel iawn ei pharch ymhlith cydweithwyr, staff , rhieni a disgyblion. Mae’n rhoi’r disgyblion yn gyntaf bob amser, gan gynnig cymorth heb ei debyg. Dywed cydweithwyr fod Tracy wedi gweddnewid yr ysgol, gan roi cyfl eoedd diddiwedd iddynt ar gyfer datblygiad proff esiynol ac i dreialu dulliau newydd yn yr ystafell ddosbarth. 

Mae Tracy yn uchel ei pharch ymhlith rhieni a theuluoedd, sy’n cael eu croesawu fel rhan o gymuned yr ysgol. Mae wedi llwyddo i uno’r gymuned, ac mae wedi codi dyheadau. Mae Ysgol Merllyn, o dan arweinyddiaeth Tracy, erbyn hyn yn gymuned ddysgu gynhwysol lle mae cydweithwyr, rhieni a disgyblion yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a bod ganddynt ysgol sy’n gofalu amdanynt.