Neidio i'r prif gynnwy

Enillydd

Mae gan Phil angerdd rhyfeddol ac mae wrthi’n ddi-baid yn chwilio am ffyrdd newydd o feddwl a fydd yn ysbrydoli pawb o’i gwmpas. Roedd dyfodiad Bagloriaeth Cymru’n her a fu’n ysbrydoliaeth iddo i ddefnyddio pwer datrysiad digidol sydd wedi gweddnewid agwedd yr ysgol tuag at ddysgu ac addysgu i bob disgybl. 

Mae wedi creu gwersi bychain ar YouTube fel y bydd athrawon a disgyblion yn gallu dysgu oddi wrtho ble bynnag y byddant, a hynny ar unrhyw adeg. Mae Phil wedi arwain newid diwydiannol ar raddfa ysgol gyfan gyda meddylfryd sy’n dangos bod pawb yn gallu dysgu a gwella wrth ddysgu os ydynt yn barod i arbrofi a gwneud camgymeriadau, ac mae hyn yn wir am staff a phlant.