Neidio i'r prif gynnwy

Teilyngwr

Mae Lucio yn hynod frwd ynglyn â’i addysgu a sut mae’n eff eithio ar ddyfodol ei holl ddisgyblion blwyddyn chwech. Yn ei amser byr fel athro, mae wedi cael dylanwad enfawr ar gydweithwyr a’r gymuned ehangach drwy ei ddefnydd arloesol o dechnoleg a’i benderfyniad i bersonoli profi ad dysgu pob plentyn. 

Mae Lucio wedi gadael ei ôl ar Ysgol Gynradd Eveswell drwy ei ddefnydd o dechnoleg ddigidol, ei gariad at chwaraeon a’i frwdfrydedd tuag at ddysgu proffesiynol. Mae rhieni wrth eu bodd â Lucio ac fe’u gwelir yn aml yn sgwrsio ag ef ar ddiwedd y diwrnod ysgol.