Neidio i'r prif gynnwy

Teilyngwr

Mae Leanne yn gymeriad diymhongar, ymroddedig y gallwch ymddiried yn hawdd ynddi. Mae’r bartneriaeth mae wedi’i sefydlu â’r gwasanaethau milwrol sydd wedi’u lleoli yn yr ardal yn sicrhau llawer o gefnogaeth i blant staff y gwasanaethau milwrol mewn ysgolion cynradd sy’n rhan o’r bartneriaeth ac yn Ysgol Llanilltud Fawr. 

Mae hi’n gwneud yn siwr bod staff yn deall profi adau unigryw’r grwp hwn o ddisgyblion ac o ganlyniad mi all staff helpu i ddiwallu eu hanghenion emosiynol ac academaidd yn eff eithiol iawn. Mae Leanne yn chwarae rhan enfawr ym mywyd yr ysgol ac mae’n ymdrechu bob amser i gyfl awni’r deilliannau gorau i’r holl ddisgyblion. Mae ei hymgysylltiad â rhieni a’r cysylltiadau cryf mae wedi’u meithrin ag ysgolion cynradd y bartneriaeth yn glod iddi.