Neidio i'r prif gynnwy

Teilyngwr

Mae Hannah yn nodedig am ei hegni a’i hangerdd tuag at ei swydd. Mae Hannah wedi chwarae rôl gwbl allweddol drwy newid Cyfnod Sylfaen yr ysgol i gynnwys meithrinfa, sy’n galluogi athrawon meithrin a staff ategol i gydweithio.

Mae Hannah wedi creu amgylchedd dysgu pleserus i’r holl ddisgyblion, ac mae ei thechnegau dysgu arloesol eisoes yn ysbrydoli ac yn annog aelodau eraill o’r staff. Mae hi’n ennyn brwdfrydedd mewn eraill sy’n amlwg ym mhob elfen o’i haddysgu.