Neidio i'r prif gynnwy

Enillydd

Emma yw hyrwyddwr llais y disgyblion yn Ysgol Bassaleg. Nid oes modd gorddweud faint o oleuni, lliw a gobaith mae Emma wedi’i gyfrannu at fywydau disgyblion a staff . 

Mae Emma yn llysgennad heb ei thebyg ar ran anghenion disgyblion, mae hi’n codi llais ar eu rhan ac nid yw byth yn colli ff ydd ynddynt. Mae’r rhaglen llysgenhadon mae hi’n rhedeg yn llwyddiant mawr, ac mae hi’n ff ynnu wrth weld ei gweledigaeth ar waith. 

Mae Emma wedi gweddnewid hen adeilad ysgol yn hafan ddiogel a chroesawgar i’r disgyblion yn Ysgol Bassaleg, gan wneud i bawb deimlo bod croeso iddynt a’u bod yn cael eu derbyn.