Neidio i'r prif gynnwy

Teilyngwr

Mae David yn unigolyn brwd dros ben sy’n cynnig cymorth eithriadol i ddisgyblion agored i niwed yn Ysgol Cil-y-Coed. Mae’n rhoi arweiniad a chyngor clir i ddisgyblion mewn ff ordd sy’n eu galluogi i’w rhoi ar waith yn eu bywydau a’u hamgylchiadau eu hunain. 

Mae David yn cynllunio amrywiaeth o weithgareddau sy’n amrywio o sesiynau bugeiliol 1:1, i sesiynau addysgu sy’n galluogi disgyblion i ennill cymwysterau sy’n cael eu cydnabod yn genedlaethol.

Mae David yn defnyddio ei sgiliau cerddorol, artistig a busnes i annog disgyblion i feddwl am eu dyheadau eu hunain ar gyfer y dyfodol. Mae disgyblion yn ei ddisgrifi o fel rhywun sy’n ‘barod i roi sylw iddynt, sy’n ddidwyll, yn rhywun gallant ymddiried ynddo, ac sy’n deg a chefnogol’.