Neidio i'r prif gynnwy

Teilyngwr

Mae Catrin yn llysgennad arbennig ac yn ysbrydoliaeth i ddysgwyr Cymraeg o bob oed. Mae ei chefnogaeth ddifl ino i athrawon ledled Sir Benfro a thu hwnt yn neilltuol. Mae hi’n ysbrydoli pawb i ddysgu’r iaith ac i garu’r Gymraeg. 

Mae hi’n paratoi deunyddiau dysgu o bob math ac mae’n rhannu’r holl adnoddau ar rwydwaith HWB er mwyn lledaenu ei gweledigaeth a’i hangerdd. Cafodd ei disgrifi o gan gydweithwyr a rhieni fel menyw ifanc dalentog sy’n gwneud popeth o fewn ei gallu i sicrhau ymrwymiad a llwyddiant y disgyblion sydd yn ei gofal.