Neidio i'r prif gynnwy

Enillydd

Mae gan Gwenan neges glir ac angerddol, ‘dwy iaith, dwbl y dewis’ ac mae wedi llwyddo i ledaenu’r neges hon ar hyd a lled Cymru, gan gynnig y cyfleoedd gorau i ddysgwyr Cymraeg.

Ei nod wrth lunio a datblygu’r Siarter Iaith oedd creu strwythur penodol i warchod y Gymraeg ac i ysbrydoli ein plant a’n pobl ifanc i ddefnyddio’r Gymraeg ym mhob agwedd ar eu bywydau.

Mae angerdd Gwenan dros yr iaith wedi argyhoeddi eraill i weithredu, nid yn unig yng Ngwynedd a Mon ond yn genedlaethol ac o ganlyniad mae cydlynydd Siarter Iaith bellach wedi’u penodi ym mhob consortia yng Nghymru.