Neidio i'r prif gynnwy

Teilyngwr

Mae ymrwymiad Eleanor fel pennaeth yn ddiwyro, ac mae ei disgyblion yn ganolog i bob penderfyniad a wneir ganddi. Mae’n sicrhau bod dysgu’n hwyl ac yn diwallu anghenion pob disgybl.

Mae Eleanor wedi magu perthynas ac wedi ennill ymddiriedolaeth pawb sydd wedi gweithio a hi yn ystod ei 36 o flynyddoedd ym Maes-y-Coed. Mae’n gyfathrebwr rhagorol gydag awch am wybodaeth ac mae ei hegni, ei brwdfrydedd a’i hysbryd gofalgar wedi sicrhau bod cenedlaethau o deuluoedd wedi eu cyffwrdd gan ei harweinyddiaeth ysbrydoledig. Mae wedi dangos uchelgais gref a’r egni sydd ei angen i gyflawni rhagoriaeth yn ei hysgol.