Neidio i'r prif gynnwy

Enillydd

Mae gan Dylan hanes hir ym Mhontarddulais, gan gyrraedd yn gyntaf fel disgybl, yna fel Rheolwr y Rhwydwaith TG ac yn awr fel Pennaeth TGCh a Chydlynydd Sgiliau Digidol.

Trwy ei ddulliau ysbrydoledig a’i allu i feddwl mewn ffordd wreiddiol, mae Dylan yn helpu ei gydweithwyr i deimlo’n gyffrous a hyderus wrth ddefnyddio ystod o gyfarpar ac adnoddau digidol i helpu eu dysgu. Mae’r ysgol wedi cymryd camau arloesol ymlaen, diolch i weledigaeth, gwybodaeth, dealltwriaeth a brwdfrydedd Dylan.

Mae wrthi’n chwilio’n ddi-baid am ffyrdd o wella’r ysgol ac mae’n barod bob amser i helpu pawb.