Neidio i'r prif gynnwy

Gwobr Cydnabyddiaeth Arbennig

Dechreuodd Ann ar ei gyrfa addysgu mewn ysgol gyfun yn Llundain cyn dychwelyd nôl i Gymru ar ei phenodiad i'r Gwasanaeth Sifil fel Arolygydd ei Mawrhydi (AEM) yn Arolygiaeth Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru (Estyn). Yn ystod ei gyrfa yn Estyn, bu'n gweithio fel Arolygydd Rhanbarth, AEM Rheoli, Pennaeth y Gyfarwyddiaeth Arolygu: Darparwyr Addysg, Cyfarwyddwr Strategol ac, yn olaf, fel Prif Arolygydd ei Mawrhydi cyn ymddeol yn 2015.

Wrth dderbyn y wobr Cydnabyddiaeth Arbennig, dywedodd Ann "Rydw i wrth fy modd gan ei fod yn gwbl annisgwyl. Mae'r wobr hon yn gydnabyddiaeth o'r ymdrechion yr wyf wedi ceisio eu rhoi yn y system addysg yng Nghymru dros gyfnod maith.

Mae gwobrau fel y rhain yn bwysig fel bod pobl yn cael eu cyfle i serenni. Mae'n goleuo'r arfer da a'r ymdrechion y mae pobl yn eu gwneud, ac yn rhoi i bobl ymdeimlad bod eu gwaith caled yn cael ei gwobrwyo."