Neidio i'r prif gynnwy

Rhoddodd Kirsty Williams, yr Ysgrifennydd Addysg ddwy wobr i ysgolion ym Merthyr Tudful (dydd Iau 12 Hyd), a hynny am eu gwaith yn meithrin eu disgyblion disgleiriaf.

Cyhoeddwyd gyntaf:
13 Hydref 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae Ysgol Gynradd Gymunedol Ynysowen ac Ysgol Gynradd Gymunedol Troedyrhiw wedi cael cydnabyddiaeth gan NACE, Y Gymdeithas Genedlaethol ar gyfer plant abl mewn addysg. Mae’r gymdeithas yn cydweithio ag athrawon i roi hwb i ddisgyblion dawnus.

Ysgol Gynradd Gymunedol Ynysowen yw’r wythfed ysgol o Gymru i lwyddo i gael y wobr Her NACE am ragoriaeth o ran y ddarpariaeth i ddisgyblion mwy abl a thalentog  am yr eilwaith. Rhoddir ail achrediad am gynnal safon gwaith uchel drwy’r ysgol gyfan, gan athrawon a llywodraethwyr, wrth roi her i’r holl ddisgyblion (gan gynnwys y rhai mwyaf galluog) i fod y gorau y gallant fod dros y pedair blynedd ddiwethaf.

Dywedodd Prif Weithredwr NACE, Sue Riley:

“Mae Ysgol Gynradd Gymunedol Ynysowen wedi gweithio’n galed  i ennill statws ail-achredu Her NACE. Mae’r ysgol wedi dangos  ymrwymiad i ddatblygu ysgol sy’n herio'r holl ddisgyblion i fod y gorau y gallant fod. Mae'r plant mwy galluog a thalentog yn cael eu herio ac mae hynny’n helpu'r dysgwyr eraill i weld yr hyn y gellir ei gyflawni.”

Dyma’r tro cyntaf i Ysgol Gynradd Gymunedol Troedyrhiw gael y wobr.

Ychwanegodd Sue Riley:

“Mae Ysgol Gynradd Gymunedol Troed Y Rhiw yn enghraifft drawiadol arall o ysgol sy'n dangos ymrwymiad cryf i greu amgylchedd lle mae pob dysgwr yn cael ei herio a'i gefnogi'n effeithiol. Amlygodd yr asesydd Gwobr Her y diwylliant cadarnhaol sy'n treiddio yr ysgol , gan adlewyrchu ei arwyddair: 'credu a chyflawni'”

Ymwelodd yr Ysgrifennydd Addysg â’r ysgolion gyda’r Athro Graham Donaldson, a roddodd gyngor i Lywodraeth Cymru ar greu’r Cwricwlwm newydd i Gymru.

Dywedodd Kirsty Williams:

“Mae’n ymgyrch genedlaethol gennym i roi cymorth i bob disgybl, waeth beth fo’u cefndir, gyrraedd eu potensial llawn. Mae hyn yn cynnwys rhoi cymorth ychwanegol i’r disgyblion hynny o’r cefndiroedd mwyaf difreintiedig, yn ogystal â rhoi help llaw i’r disgyblion disgleiriaf wireddu eu potensial llawn.

“Dylai’r ddwy ysgol fod yn falch o’r gydnabyddiaeth a’u hymroddiad i helpu eu disgyblion disgleiriaf i wireddu eu potensial llawn.”

Mae Llywodraeth Cymru yn cydweithio â NACE Cymru i ddarparu adnoddau i ysgolion er mwyn iddynt roi cefnogaeth i’r disgyblion disgleiriaf.