Neidio i'r prif gynnwy

Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda'r Sefydliad Siartredig Caffael a Chyflenwi (CIPS) i gyflwyno Rhaglen Wobrwyo Gorfforaethol ar gyfer sector cyhoeddus Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
30 Mai 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae Gwobr Gorfforaethol CIPS yn ffurfio rhan o raglen medrusrwydd a gallu Llywodraeth Cymru. Ei nod yw rhoi cyfleoedd datblygu proffesiynol i staff, creu gweithwyr proffesiynol y dyfodol, mynd i'r afael â'r materion medrusrwydd a wynebir ar draws y proffesiwn a chodi proffil caffael yng Nghymru. Rydym wedi ariannu dros 194 o leoedd ar draws y Rhaglen Wobrwyo Gorfforaethol, ac rydym yn gobeithio cefnogi twf y proffesiwn yn y dyfodol.

Mae cwrs Gwobr Gorfforaethol CIPS yn ddeniadol i sawl myfyriwr gan ei fod yn rhaglen ddysgu gymhwysol, fodiwlaidd, sy'n seiliedig ar waith sy'n cynnig llwybr at MCIPS llawn a Statws Siartredig trwy amserlen garlam, o oddeutu 15 mis. Ar hyn o bryd, mae'r cwrs yn cael ei ddarparu trwy blatfform rhithwir ar-lein, gan ddefnyddio Zoom ar gyfer darlithoedd wyneb yn wyneb. Mae'r asesiad yn seiliedig ar aseiniadau ac mae angen cyflwyno prosiect 10,000 gair ar ddiwedd y cwrs. Ar ôl cwblhau’r cwrs, bydd myfyrwyr yn gymwys i wneud cais am statws MCIPS, ar ôl cyflwyno tystiolaeth o'r nifer o flynyddoedd o brofiad caffael sy’n angenrheidiol.

Bydd yn ofynnol i ymgeiswyr dystiolaethu eu bod nhw eisoes wedi cwblhau CIPS L4 / Diploma, y rhaglen Ymarferwyr sydd ar gael trwy Lywodraeth Cymru, neu eu bod nhw wedi llwyddo i basio asesiad cymhwysedd CIPS wrth ymgeisio i wneud cais am y cwrs Ymarferydd Uwch.

I gael mwy o wybodaeth am Raglen Gwobr Gorfforaethol CIPS, cliciwch fan hyn.

Sut i fynegi diddordeb

I fynegi eich diddordeb yn y cwrs hwn, anfonwch neges e-bost at GalluMasnachol@llyw.cymru. Pan fyddwch yn mynegi eich diddordeb, sicrhewch eich bod chi’n darparu teitl y cwrs, eich enw, teitl eich swydd ac enw’r sefydliad sy’n eich cyflogi. Byddwn yn eich hysbysu pan fydd y rhaglen ar agor ar gyfer ceisiadau.

Cyn mynegi eich diddordeb, gwnewch yn siŵr eich bod yn cwrdd â'r meini prawf a'r amodau cymhwysedd a welir yn y dogfennau ategol.