Gwnewch gais nawr am gyllid i helpu gyda costau gwisg ysgol ac offer chwaraeon
Mae'r gronfa newydd, PDG Mynediad, yn targedu dysgwyr sy'n gymwys am brydau ysgol am ddim neu blant sy'n derbyn gofal ac sy'n mynd i ddosbarth derbyn neu Flwyddyn 7 ym mis Medi ac yn 4 neu'n 11 oed mewn ysgolion arbennig, Unedau Anghenion Addysgol Arbennig neu Unedau Cyfeirio Disgyblion.
Bydd y gronfa hefyd yn cynnwys cyllid am offer ar gyfer teithiau ysgol y tu allan i oriau, gan gynnwys dysgu yn yr awyr agored, ac offer ar gyfer gweithgareddau o fewn y cwricwlwm, megis dylunio a thechnoleg.
Mae Kirsty Williams yr Ysgrifennydd Addysg a Debbie Wilcox Arweinydd CLlLC wedi annog rhieni/gofalwyr plant cymwys i drafod â'u cyngor heddiw ynghylch gwneud cais am y cyllid newydd.
Meddai Kirsty Williams:
"Rydym am i'n disgyblion i gyd gael yr un cyfleoedd - boed y tu mewn neu y tu allan i'r ysgol - ac mae PDG Mynediad yn gwneud yn siŵr bod hynny'n digwydd.
"Rydym yn gwybod y gall gostau gwisg ysgol, offer chwaraeon ac offer ar gyfer gweithgareddau eraill fod yn ddrud, felly mae'n bwysig iawn bod rhieni a gofalwyr yn ymwybodol o'r gronfa newydd hon ac yn gwybod ble i wneud cais.
"Os ydych yn credu eich bod yn gymwys ar gyfer PDG Mynediad yna trafodwch â'ch cyngor heddiw a gallech dderbyn £125 yn fuan i helpu gyda'r costau hyn."
Meddai y Cynghorydd Debbie Wilcox (Casnewydd), Llefarydd CLlLC ar Addysg:
"Hoffwn annog unrhyw riant neu ofalwr sy'n credu eu bod yn gymwys ar gyfer y gronfa hon gysylltu â'u hawdurdod lleol.
"Mae awdurdodau lleol am gefnogi pob disgybl i elwa o'r un cyfleoedd, a dyna pam y bydd CLlLC yn edrych ymlaen at barhau i drafod gyda Llywodraeth Cymru i sicrhau bod arian mor bwysig yn cael ei gynnal a'i ddiogelu."