Neidio i'r prif gynnwy

Grant i roi cymorth i'r bobl sydd angen cyngor fwyaf ynghylch materion lles cymdeithasol.

Cyhoeddwyd gyntaf:
25 Gorffennaf 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Pa gyllid sydd ar gael?

Mae cyllid o £12 miliwn y flwyddyn ar gael rhwng 1 Ebrill 2025 a 31 Mawrth 2028.

Gwybodaeth am y grant

Nod y Gronfa Gynghori Sengl yw rhoi help i ymateb i'r cynnydd parhaus yn y galw am wasanaethau cynghori ar faterion lles cymdeithasol fel:

  • dyled
  • gwahaniaethu
  • addysg
  • cyflogaeth
  • llety
  • mewnfudo
  • budd-daliadau lles

Pwy all wneud cais am y grant?

Gall darparwr unigol neu grŵp o ddarparwyr ar y cyd gyflwyno cais am y cyllid.

Y meini prawf gofynnol

Dylai'r model darparu gwasanaeth:

  • gyflawni nod ac amcanion y Gronfa Gynghori Sengl
  • ennyn hyder mewn gwasanaeth o ansawdd uchel
  • cynnig gwerth am arian

Ceir manylion llawn yng nghanllawiau'r grant

Sut mae gwneud cais

Gwnewch gais drwy lenwi'r ffurflen gais.

Cwblhewch eich ffurflen gais a'i hanfon drwy e-bost at RhwydweithiauCynghori@llyw.cymru.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 17 Hydref 2024 am 5pm.

Gellir dod o hyd i ragor o fanylion yng nghanllawiau'r grant a'r ffurflen gais.

Asesu’r cynigion

Bydd y broses asesu yn cynnwys system sgorio wedi'i phwysoli. Mae'r system sgorio wedi'i nodi yn y ffurflen gais.