Gallwch wneud cais am Fenthyciad Arbed Tenantiaeth gan undeb credyd os nad ydych wedi gallu talu eich rhent oherwydd y coronafeirws.
Gall y Benthyciad Arbed Tenantiaeth eich helpu os ydych wedi cael trafferth talu eich rhent oherwydd newid yn eich amgylchiadau yn sgil y coronafeirws.
Er enghraifft, os ydych:
- wedi bod ar ffyrlo
- wedi bod ar gontract dim oriau ond wedi cael llai o oriau gwaith
- wedi colli eich swydd a dechrau swydd newydd
- wedi bod yn derbyn Tâl Salwch Statudol oherwydd eich bod wedi bod yn hunanynysu
- wedi cymryd amser i ffwrdd heb dâl i ofalu am rywun
Gellir ad-dalu'r benthyciad dros 5 mlynedd gyda chyfradd llog o 1% o'r gyfradd ganrannol flynyddol (APR). Bydd y swm a gewch yn seiliedig ar faint o ôl-ddyledion rhent sydd gennych a beth y gallwch fforddio ei fenthyg.
Os caiff ei gymeradwyo, bydd y benthyciad yn cael ei dalu'n uniongyrchol i'ch landlord neu asiant gosod eiddo ar eich rhan.
Pwy sy'n gymwys
I gael benthyciad, rhaid:
- eich bod yn rhentu eich cartref yng Nghymru
- eich bod yn rhentu eich cartref oddi wrth landlord preifat
- bod gennych ôl-ddyledion rhent (heb dalu eich rhent) ers 1 Mawrth oherwydd newid i'ch amgylchiadau yn ystod pandemig y coronafeirws
- bod gennych ôl-ddyledion rhent (heb dalu eich rhent) a’ch bod yn ei chael hi'n anodd talu eich rhent oherwydd newid i'ch amgylchiadau yn ystod pandemig y coronafeirws
- nad oedd gennych ôl-ddyledion rhent sylweddol (heb dalu eich rhent am fwy nag 8 wythnos yn olynol) cyn 1 Mawrth
- eich bod yn rhentu gan landlord neu asiant gosod eiddo sydd wedi'i gofrestru a'i drwyddedu gyda Rhentu Doeth Cymru
- eich bod yn gallu fforddio talu'r benthyciad yn ôl (yn seiliedig ar eich incwm a phrawf fforddiadwyedd)
- nad ydych yn derbyn budd-dal tai neu gymorth gyda chostau tai drwy'r Credyd Cynhwysol
- nad ydych eisoes wedi gwneud cais a chael benthyciad arall drwy'r cynllun Benthyciad Arbed Tenantiaeth
Sut i wneud cais
Gallwch wneud cais drwy undeb credyd drwy gofrestru eich diddordeb ar wefan Undebau Credyd Cymru.