Efallai’ch bod yn cael teithio am ddim ar fysiau os ydych:
- yn anabl
- yn 60 oed neu fwy
- yn aelod wedi’i anafu o’r lluoedd arfog
Teithiau rhatach ar fysiau i bobl ifanc
Os ydych yn 16 - 21 oed ac yn byw yng Nghymru, gallwch ofyn am FyNgherdynTeithio. Mae’n rhoi gostyngiad o un rhan o dair ichi ar fysiau lleol ac ar wasanaethau teithiau pell TrawsCymru.
Ei ddefnyddio ar drenau
Gallwch ddefnyddio’ch pas teithio rhatach ar rai trenau hefyd. Am ragor o wybodaeth, ewch i Trafnidiaeth Cymru.