Mae Festive Productions eisoes yn paratoi ar gyfer y Nadolig wrth i’r gwaith fynd rhagddo yn dilyn buddsoddiad sylweddol i welliannau strwythurol a gefnogwyd gan Lywodraeth Cymru.
Bu rhaid i Festive Productions - gwneuthurwr tinsel mwyaf y DU - ailosod bron i hanner to ei ffatri, sy’n 250,000 troedfedd sgwâr mewn maint, ar Ffordd Tŷ Coch, Cwmbrân. Cefnogwyd y gwaith drwy fuddsoddiad o £455,500, gyda £150,000 ohono’n gyllid busnes ad-daladwy a gefnogwyd gan Lywodraeth Cymru. Cafodd y gwaith ei gwblhau mewn pryd ar gyfer eu cyfnod cynhyrchu prysuraf sydd bellach wedi cychwyn.
Mae’r buddsoddiad sylweddol hefyd wedi diogelu tua 130 o swyddi tymhorol sy’n cael eu creu’n flynyddol yn ystod y tri mis pan fydd y gweithgynhyrchu yn ei anterth.
Mae Festive Productions bellach ar y trywydd iawn i gynhyrchu tua 200,000 o fetrau o dinsel y mis yn ystod y cyfnod sy’n arwain at Nadolig 2016, gan ddarparu cynnyrch pwrpasol i’w gwsmeriaid, sy’n cynnwys siopau bwyd, siopau’r stryd fawr, canolfannau garddio a siopau manwerthu annibynnol.
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Economi a’r Seilwaith Ken Skates:
“Mae Festive Productions yn cefnogi nifer fawr o swyddi sy’n talu’n dda ac rwyf yn falch bod cefnogaeth Llywodraeth Cymru wedi helpu i ddiogelu swyddi, a bod cynhyrchu ar gyfer y Nadolig hwn bellach wedi cychwyn.
“Mae gan y cwmni hanes hir o gysylltiadau â Chymru ers iddynt ddechrau cynhyrchu tinsel ac addurniadau Nadolig yng Nghasnewydd dros dri deg mlynedd yn ôl. Rwy’n falch o ddweud bod y cwmni wedi parhau i fuddsoddi ac ehangu yng Nghymru i fod yn wneuthurwr mwyaf o’i fath yn y DU. Mae’r buddsoddiad hwn yn sicrhau bod y cwmni’n parhau i weithgynhyrchu yng Nghymru.”
Dywedodd Cadeirydd Festive, John Saunders:
“Fel un o’r prif gyflogwyr lleol, rydym yn gweithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru er mwyn diogelu swyddi a gweithgynhyrchu yn Ne Cymru. Mae’r cymorth ariannol yr ydym wedi ei dderbyn yn enghraifft arall o’r bartneriaeth lwyddiannus hon, ac yn ein galluogi i ganolbwyntio ar barhau i ddatblygu ein busnes.”
Mae Festive Products yn creu ystod eang o gynnyrch ar gyfer y farchnad addurniadau Nadolig ac yn gweithio’n agos gyda manwerthwyr mawr i ddatblygu amrywiaeth o gynnyrchpwrpasol, gan gynnwys addurniadau, tinsel, torchau, goleuadau a choed artiffisial. Mae ganddynt hefyd gytundebau trwyddedu gyda Disney a Universal.
Mae ansawdd yn nod i’r cwmni ers y dechrau. Gan fod ei gynnyrch yn rhagori ar gynnyrch a fewnforir, dyma’r cyflenwr sy’n cael ei ffafrio gan nifer o’r prif frandiau ar draws y DU.
Fe agorwyd ei safle cyntaf yng Nghasnewydd ym 1983, cyn symud i’w brif swyddfa 17 erw yng Nghwmbrân yn 2000.