Ein cynlluniau i helpu Gwneud Llywodraeth Cymru yn Weithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog.
Yn 2018 cyhoeddodd Llywodraeth y DU y Strategaeth gyntaf erioed ar gyfer ein Cyn-filwyr ac yn dilyn hyn, yn 2020, cyhoeddwyd Cynllun Gweithredu'r Strategaeth Cyn-filwyr a oedd yn nodi’r camau cyntaf y mae Llywodraeth y DU yn eu cymryd i gyflawni ei huchelgais o wneud y Deyrnas Unedig y lle gorau yn y byd i fod yn gyn-filwr. Dim ond un rhan o gyflawni'r uchelgais hwn yw gwneud y Gwasanaeth Sifil yn Weithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog.
Cynhaliwyd ymgyngoriadau ar draws pob rhan o'r DU i gefnogi'r gwaith o gyflawni'r strategaeth. Ymarfer Cwmpasu Cyn-filwyr a’r Lluoedd Arfog Llywodraeth Cymru oedd ein cyfraniad ni i'r gwaith hwn. Cyhoeddwyd y canfyddiadau ym mis Ionawr 2020.
Mae tua 2.2 miliwn o Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog yn y Deyrnas Unedig gyda thua 295,000 yn byw yng Nghymru. Bob blwyddyn mae tua 15,000 o bobl yn gadael y Lluoedd Arfog. Mae tua 60% ohonynt o dan 35 oed, a'r rhan fwyaf yn ceisio manteisio ar yrfa neu gyfleoedd gwaith newydd mewn bywyd sifil. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i roi cymaint o gefnogaeth a chydnabyddiaeth â phosibl i’r cyn-filwyr yn ein cymdeithas. Mae hyn yn cynnwys yr agweddau a'r cyfleoedd hynny, megis cyflogaeth mewn swyddi o safon, sy'n eu helpu i ffynnu a llwyddo i bontio o fywyd yn y Lluoedd Arfog i gyflogaeth sifil. Mae gan Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog hefyd sgiliau a phrofiad unigryw a llawer o'r gwerthoedd sy’n hanfodol i wneud i’r Gwasanaeth Sifil ffynnu; ymrwymiad i wasanaeth cyhoeddus, gwaith tîm, cynhwysiant, creadigrwydd ac ysgogiad.
Mae Llywodraeth Cymru’n cydnabod bod cyflogaeth o safon yn ffactor allweddol i gyn-filwyr a'r rhai sy'n gadael y Gwasanaeth er mwyn iddynt drosglwyddo yn llwyddiannus yn ôl i fywyd sifil, a chyfrannu at y cymunedau y maent yn ymgartrefu ynddynt. Er mwyn cefnogi cyn-filwyr a'r rhai sy'n gadael y gwasanaeth i ddod o hyd i waith, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru’r ddogfen Llwybr at Waith a Phecyn i Gyflogwyr yn 2018.
Gweithle Gwych
Ym mis Chwefror 2020, cyhoeddodd Llywodraeth y DU y byddai menter newydd yn cael ei chyflwyno i wneud y Gwasanaeth Sifil yn Weithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog. Mae llawer o Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog eisoes yn gweithio yn y Gwasanaeth Sifil ac yn cyfrannu llawer iawn i'r sefydliad, a nod y fenter hon yw annog mwy o gyn-aelodau i gymryd y cam hwn. Mae'r mesurau newydd hyn yn canolbwyntio ar swyddi ar bob gradd, swyddogaeth a phroffesiwn ar draws y Gwasanaeth Sifil.
I ddechrau, bydd y cynllun yn mynd drwy gyfnod mabwysiadu cynnar mewn pedair adran: Swyddfa'r Cabinet, y Weinyddiaeth Amddiffyn, y Weinyddiaeth Gyfiawnder a'r Swyddfa Gartref (gan gynnwys Llu'r Ffiniau). Bydd y cam Mabwysiadu Cynnar hwn yn caniatáu i'r Gwasanaeth Sifil gynnal profion defnyddwyr (gan gynnwys ymchwil) o atebion recriwtio, sicrhau bod y profiad i gyn-filwyr, recriwtwyr a rheolwyr yn un cadarnhaol a helpu i ddatblygu'r cynllun fel y gellir ei gyflwyno'n llwyddiannus ar draws y Gwasanaeth Sifil.
Llywodraeth Cymru a'r fenter Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog
Ym mis Tachwedd 2020, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru y byddent hwythau hefyd yn ymuno â'r adrannau mabwysiadwyr cynnar eraill ac yn cyflwyno'r fenter Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog.
O ganlyniad, bydd cyn-filwyr sy'n bodloni'r meini prawf gofynnol ar gyfer rôl yn symud ymlaen i'r cam dethol nesaf. Yn y rhan fwyaf o achosion, cyfweliad fydd hwn, ond yn dibynnu ar y swydd wag gall fod yn ddull arall o ddethol megis prawf ar-lein neu ganolfan asesu.
O ddydd Llun, 9 o Dachwedd, caiff pob rol sydd wedi cael eu hysbysebu'n allanol eu cynnwys yn y fenter, a gallant fod naill ai'n rhai dros dro neu'n barhaol, ac ar unrhyw radd.
Pwy sy'n gymwys
I fod yn gymwys ar gyfer y cynllun hwn yn y Gwasanaeth Sifil, rhaid:
- ichi fod wedi gwasanaethu am o leiaf un flwyddyn yn Lluoedd Arfog Ei Mawrhydi (Rheolaidd neu Wrth Gefn); mae hyn yn cynnwys amser a dreuliwyd yn hyfforddi
- ichi fod yn trosglwyddo o Luoedd Arfog EM, neu wedi peidio â bod yn aelod
- nad ydych eisoes yn was sifil, neu'n cael eich cyflogi gan gorff cyhoeddus achrededig Comisiwn y Gwasanaeth Sifil
Nid oes terfyn amser uchaf o'r adeg y gadawsoch Luoedd Arfog EM er mwyn bod yn gymwys ar gyfer y fenter hon.
Defnyddio'r fenter
Pan fyddwch yn gwneud cais am rôl drwy system ymgeisio ar-lein Llywodraeth Cymru, gofynnir ichi nodi a ydych yn gymwys ar gyfer y fenter Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog ac a hoffech wneud cais am y rôl drwy'r llwybr hwn.
Nodwch, yn ystod yr archwiliadau cyn cyflogi ar gyfer rôl yn y Gwasanaeth Sifil, y bydd eich hanes cyflogaeth yn cael ei wirio. Gall ymgais i ddefnyddio'r fenter hon yn dwyllodrus arwain at derfynu eich cais.
Safon ofynnol
Er mwyn defnyddio'r fenter Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog, rhaid ichi hefyd fodloni'r safon ofynnol ar gyfer y rôl yr hoffech wneud cais amdani.
Y safon ofynnol yw'r cyfuniad o brofiad, ymddygiadau, cryfderau, galluoedd a sgiliau technegol/proffesiynol y bydd angen i ymgeisydd eu cyflawni'n effeithiol yn y rôl.
Bydd y safon ofynnol wedi'i nodi'n glir yn y disgrifiad o’r swydd wag neu'r pecyn gwybodaeth i ymgeiswyr. Os nad ydych yn siŵr beth yw'r safon ofynnol, dylech gysylltu â'r rheolwr sy’n recriwtio.
Recriwtio sawl cam
Ar gyfer rhai swyddi, bydd ymgeiswyr yn mynd drwy sawl cam, fel profion ar-lein, sifftiau papur, diwrnodau asesu a chyfweliadau.
Os oes sawl cam i'r broses ymgeisio ar gyfer rôl, gellir defnyddio'r fenter Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog ar bob cam, ond dim un cam ymlaen yn y broses y bydd yn symud yr ymgeisydd, a dim ond os ydynt yn bodloni'r safon ofynnol ar bob cam.
Recriwtio mewn niferoedd mawr
Efallai na fydd bob amser yn ymarferol nac yn briodol i gyfweld pob cyn-filwr sy'n bodloni'r meini prawf gofynnol ar gyfer y swydd. Er enghraifft, wrth recriwtio niferoedd mawr, efallai y bydd y cyflogwr am gyfyngu ar y nifer cyffredinol o gyfweliadau drwy ddewis yr ymgeiswyr sy'n bodloni'r meini prawf gofynnol orau ar gyfer y swydd yn hytrach na phawb sy'n bodloni'r meini prawf gofynnol.
O dan yr amgylchiadau hyn, gall sefydliadau ddewis yr ymgeiswyr sy'n bodloni'r meini prawf gofynnol orau ar gyfer y swydd yn hytrach na phawb sy'n bodloni'r meini prawf gofynnol.
Gweithio yn y Gwasanaeth Sifil
Mae llawer o gyn-filwyr eisoes yn gweithio yn y Gwasanaeth Sifil ac yn gwneud cyfraniad gwych iddo. Bydd y fenter Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog yn ychwanegu at y llwybrau mynediad a phrofiad presennol a weithredir gan rai Adrannau i gyn-filwyr ymuno â'r Gwasanaeth Sifil a’r rhaglenni Camu Ymlaen i Waith a chynllun RISE Cyllid a Thollau ei Mawrhydi.