Neidio i'r prif gynnwy

"Mae ein hanes wedi siapio'r Gymru sydd ohoni heddiw, mae'n hanfodol bod pobl ifanc yn dysgu am ein treftadaeth gyfoethog ac amrywiol yn yr ysgol".

Cyhoeddwyd gyntaf:
22 Hydref 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddodd y Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch, Vikki Howells heddiw (22 Hydref) fod gwaith ar greu Llinell Amser Hanes Cymru newydd wedi dechrau. Bydd yn cynnwys adnoddau a gwybodaeth i athrawon ac ymarferwyr.

Mae'r Gweinidog ei hun yn ymwybodol o'r rôl bwysig sydd gan hanes Cymru ym myd addysg, ar ôl ennill gradd mewn hanes Rhyngwladol a hanes Cymru ynghyd â gradd feistr yn hanes modern Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd, ochr yn ochr â bod yn athro hanes yn Ysgol Gymunedol Sant Cenydd, Caerffili am un mlynedd ar bymtheg.

Mae hanes Cymru wedi bod yn rhan orfodol o'r Cwricwlwm i Gymru ers 2022. Addysgir dysgwyr sut mae hanes, iaith, amrywiaeth a diwylliant wedi siapio Cymru i fod y genedl falch ac unigryw a welwn heddiw.

Mae'r pwyslais ar ddysgu hanes Cymru sy'n berthnasol i ardal leol person ifanc lle mae'n byw ac yn dysgu, p'un a yw'n ymwneud â'r cytundeb busnes cyntaf yn y byd i fod yn werth miliwn o bunnoedd a wnaed yng Nghaerdydd ym 1907 neu ddarganfod deinosor 'Cymreig', y Dracoraptor hanigani, yn 2014 neu ddysgu bod y mwynglawdd copr ym Mhen y Gogarth yn un o'r pwysicaf yn Ewrop. Bydd Llinell Amser newydd Hanes Cymru yn helpu athrawon i baratoi gwersi diddorol a difyr i'w dysgwyr.

Bydd y Llinell Amser Hanes Cymru newydd yn helpu athrawon gydag adnoddau, arweiniad a gwybodaeth er mwyn dysgu hanes deinamig ac amrywiol Cymru. Bydd Adnodd, corff Llywodraeth Cymru sy'n cynhyrchu adnoddau ar gyfer ymarferwyr addysg yng Nghymru, yn goruchwylio'r gwaith, gan gyfrannu arbenigedd o'r sector Addysg Uwch yng Nghymru i gynorthwyo creu'r llinell amser. Mae hyn yn cynnwys cynrychiolwyr o'r sector Addysg Uwch yn ymuno â chynrychiolwyr o Adnodd a Llywodraeth Cymru, ochr yn ochr â phanel arbenigol a fydd yn helpu i lunio'r llinell amser newydd.

Yn ddiweddar, ymwelodd y Gweinidog ag Ysgol Bro Taf gan fynd i wers hanes blwyddyn 7.

Dywedodd y Gweinidog Addysg Uwch ac Addysg Bellach, Vikki Howells: 

Rwy'n hynod o frwdfrydig ynghylch hanes ar ôl addysgu’r pwnc am dros 16 mlynedd. Mae'n bwysig bod plant a phobl ifanc yn dysgu am Gymru, mae edrych tua'r gorffennol yn ein helpu i ddeall sut y cafodd y Gymru rydyn ni'n ei hadnabod heddiw ei ffurfio.

Fel rhan o fy astudiaethau fy hun ar hanes Cymru, gwleidyddiaeth y diwydiant mwyngloddio oedd prif ffocws fy ngradd feistr. Fe wnaeth hyn fy helpu i ddeall rôl gwleidyddiaeth yng Nghymru, ac rydw i bellach yn rhan ohono. Gall hanes ein hysbrydoli a'n helpu i feddwl am ein dyfodol ein hunain.

Rwyf wedi gweld â’m llygaid fy hun y mwynhad a'r budd y mae plant a phobl ifanc yn eu cael o hanes. Mae ein treftadaeth yn unigryw i ni, mae ein hanes wedi siapio ein Cymru gyfoes ac mae'n hanfodol bod pobl ifanc yn dysgu am ein gorffennol cyfoethog ac amrywiol yn yr ysgol.

Mae amrywiaeth o adnoddau addysgol perthnasol sy'n ymwneud â Hanes Cymru eisoes ar gael ar Hwb. Mae deunyddiau hefyd wedi cael eu cynhyrchu, neu ar y gweill, gan bartneriaid sy’n gynnwys Cadw ac Amgueddfa Cymru.