Neidio i'r prif gynnwy

Mae ystod o ddata am ddinasyddion unigol yn cael ei gasglu a'i gadw mewn setiau data gweinyddol ac arolygon amrywiol, ee Cofnodion y Gwasanaeth Iechyd, Arolwg Cenedlaethol Cymru.

Mae ein gwaith wedi canolbwyntio ar ddau ddull allweddol y gellir eu defnyddio i gael gwerth ychwanegol o ddata sy'n bodoli eisoes:  Ymchwil Weithredol (OR) a Chysylltu Data. Dros y cyfnod 2012-13 buom yn ariannu nifer o brosiectau arddangos ar y cyd gyda'r Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC) gan ddefnyddio'r technegau hynny mewn senarios sy'n berthnasol i bolisi.

Rydym hefyd wedi ceisio datblygu'r gallu i gysylltu data arolygon cymdeithasol gyda ffynonellau data eraill drwy gynnwys cwestiwn am 'ganiatâd i gysylltu' ag arolygon cymdeithasol allweddol Cymru. Bydd hyn yn galluogi'r data i gael ei gysylltu, gyda chaniatâd priodol, gyda data eraill mewn amgylcheddau diogel i sicrhau y ceir y buddiannau mwyaf posibl o gasglu'r wybodaeth hon.

Byddwn yn parhau i fynd ar drywydd cyfleoedd i ddefnyddio ymchwil weithredol a thechnegau cysylltu data fel rhan o'n gwaith casglu tystiolaeth. O ran cysylltu data, mae buddsoddiad sylweddol wedi digwydd yng Nghymru ac mae dyfarnu Canolfan Ymchwil Data Gweinyddol (ADRC) yn ddiweddar ar y cyd i Brifysgolion Abertawe a Chaerdydd yn gyfle pellach i wella gallu ymchwilwyr achrededig i wneud defnydd o ddata gweinyddol mewn modd sy'n ddiogel ac yn sicr. Byddwn yn gweithio'n agos yn ystod yr ychydig flynyddoedd nesaf gydag ESRC a Rhwydwaith Ymchwil Data Gweinyddol y DU sydd newydd ei sefydlu a sydd yn cynnwys yr ADRC yng Nghymru, ynghyd â Gwasanaeth Data Gweinyddol y DU, er mwyn sicrhau y gellir gwneud y gorau o'r cyfleoedd hyn.

Fel rhan o'r gwaith hwn mae cyfres o adroddiadau wedi cael eu cynhyrchu.

Prosiect cysylltu data tlodi tanwydd

Astudiaeth ddichonoldeb cysylltu data Cefnogi Pobl

Archwilio dichonoldeb creu astudiaeth hydredol i Gymru

Prosiect arddangos cysylltu data

Cymhwyso technegau ymchwil gweithredol i wella gwasanaeth

Argymhellion ar gyfer gwella mynediad ymchwil at ddata a allai fod yn ddatgelol

Adolygu gallu’r Gronfa Ddata Cyswllt Diogel Gwybodaeth Ddienw (SAIL) i ddarparu data ar gyfer y Fframwaith Canlyniadau Cenedlaethol ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyswllt

Sarah Lowe

Rhif ffôn: 0300 062 5229

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.

Media

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.