Neidio i'r prif gynnwy

Cyllid grant i helpu mudiadau Diwylliant, Treftadaeth a Chwaraeon yng Nghymru i gyflawni canlyniadau gwrth-hiliol.

Pa gyllid sydd ar gael?

Mae cyllid cyfalaf o rhwng £3,000 a £15,000 ar gael rhwng canol Tachwedd 2024 a 14 Mawrth 2025. Bydd cyllid o hyd at £20,00 yn cael ei ystyried ar gyfer ceisiadau eithriadol a chymhellol.

Gwybodaeth am y grant

Mae'r grant cyfalaf yn helpu sefydliadau cymwys i dalu costau cyfalaf cyflawni canlyniadau gwrth-hiliol. Mae enghreifftiau’n cynnwys:

  • adeiladu arddangosfa
  • prynu blychau arddangos
  • digideiddio casgliadau
  • gosodweithiau celf
  • cadwraeth treftadaeth ddiwylliannol
  • mannau diwylliannol a chymunedol
  • gweithgareddau allgymorth ac ymgysylltu
  • arallgyfeirio ac ehangu casgliadau

Pwy all wneud cais am y grant?

Er mwyn gwneud cais am gyllid, dylech:

  • fod yn sefydliad sydd wedi'i leoli yng Nghymru / gweithio gyda sefydliadau perthnasol sydd wedi'u lleoli yng Nghymru, neu sy'n gweithredu yma
  • fod yn gweithredu yn y sectorau'r Celfyddydau, Amgueddfeydd, Archifau, Llyfrgelloedd, Treftadaeth neu Chwaraeon / gyda phrofiad o ymgysylltu neu gyflawni yn y sectorau hyn
  • yn gallu prynu asedau cyfalaf erbyn 14 Mawrth 2025 a'u hawlio erbyn 24 Mawrth 2025

Y meini prawf gofynnol

Dylai'r model darparu gwasanaeth:

  • gyflawni canlyniadau a chamau gweithredu Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol.
  • bodloni pob un o'r meini prawf asesu grant
  • cyflwyno cynlluniau clir i wario'r arian cyn y dyddiad cau ar 14 Mawrth 2025

Mae'r manylion llawn ar gael yn y canllawiau grant.

Sut i wneud cais

Gwnewch gais drwy gwblhau'r ffurflen gais.

Cwblhewch eich ffurflen gais a'i hanfon drwy e-bost at diwylliant@llyw.cymru.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 30 Medi 2024 am 5pm.

Ceir rhagor o fanylion yn y ddogfen canllawiau grant a'r ffurflen gais.

Asesu’r cynigion

Bydd y broses asesu yn cynnwys system sgorio wedi'i phwysoli. Mae'r pwysoliad sgôr wedi'i nodi yn y canllawiau grant.

Ieithoedd amgen

Gallwch hefyd weld cynnwys mewn ieithoedd eraill drwy ddefnyddio cyfieithu awtomatig gan Google Translate.

Mae'r gwasanaeth hwn yn cael ei ddarparu i helpu defnyddwyr, ond nid yw Llywodraeth Cymru yn gyfrifol am gynnwys na chywirdeb gwefannau allanol.