Esboniad o sut i ddatgan diddordeb mewn grant i foderneiddio amgueddfeydd, archifau a llyfrgelloedd.
Cynnwys
Cyflwyniad
Mae ein hamgueddfeydd, archifai a llyfrgelloedd lleol yn darparu gwasanaethau a chymorth hanfodol i gymunedau ledled Cymru. Maen nhw hefyd yn rhoi gwybodaeth, addysg a mwynhad i’r bobl sy’n ymweld â nhw.
Newidiadau i'r broses ymgeisio
Ar gyfer 2026 i 2027, rydym wedi gwneud rhai newidiadau i broses ymgeisio'r cynllun. Yn y lle cyntaf bydd angen cyflwyno datganiad o ddiddordeb.
Mae newidiadau eraill yn cynnwys ffurflen gais wedi'i hailgynllunio a chymorth gan ymgynghorwyr yn gynharach yn y broses, i helpu ymgeiswyr i gyflwyno'r cais cryfaf posibl.
Sut i wneud cais
Mae'n ofynnol i bob parti sydd â diddordeb gysylltu â'i gynghorydd sector perthnasol drwy diwylliant@llyw.cymru i gael cyngor ar ei brosiect posibl cyn 16 Mehefin 2025.
Bydd cynghorwyr yn rhyddhau'r gwaith papur ar gyfer datgan diddordeb i brosiectau yr ystyrir eu bod yn addas, unwaith y bydd y cyfnod ymgeisio wedi agor yn ffurfiol ar 2 Mehefin 2025.
Byddwn hefyd yn cynnal cyfres o weithdai ar-lein i roi cyngor ac arweiniad i ymgeiswyr
Amserlen
- Mae'r cyfnod ar gyfer datgan diddordeb yn agor yn swyddogol ar: 2 Mehefin 2025
- Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno datganiad o ddiddordeb: 4 Awst 2024
- Cyhoeddi penderfyniadau Cam 1: yr wythnos yn dechrau 6 Hydref 2025.
- Tair gweminar yn ystod mis Hydref a mis Tachwedd: mae'r union ddyddiadau i'w cyhoeddi.
- Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau Cam 2: 12 Ionawr 2026
- Cyhoeddi penderfyniadau Cam 2: ar neu cyn 29 Mawrth 2026.