Grantiau sy'n cefnogi prosiectau cyfalaf sy'n ymwneud â thrais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol (VAWDASV).
Cynnwys
Pa gyllid sydd ar gael?
Mae grantiau cyfalaf ar gael ar 2 lefel:
- grantiau bach o dan £50,000
- grantiau mwy gwerth hyd at £350,000
Ynglŷn â’r grant
Mae'r grant VAWDASV yn gynllun grant cyfalaf yn unig.
Rhaid i brosiectau cyfalaf gyd-fynd â 6 amcan strategaeth VAWDASV Llywodraeth Cymru 2022 i 2026.
Pwy all wneud cais am y grant?
- Sefydliadau yn y trydydd sector
- Awdurdodau lleol
- Cyrff cyhoeddus eraill
- Byrddau iechyd
Ni fyddwn yn derbyn ceisiadau gan sefydliadau a busnesau o'r sector preifat.
Y meini prawf gofynnol
Mae grantiau cyfalaf ar gael ar gyfer y mathau canlynol o brosiectau.
- Prynu eiddo:
- Caffael ased cynaliadwy i ddiwallu anghenion defnyddwyr gwasanaeth, a fydd yn darparu budd am fwy na 5 i 10 mlynedd.
- Prosiectau adnewyddu:
- Gwaith adnewyddu ac addasu i sicrhau bod gwasanaethau'n gynhwysol, yn hygyrch i bawb ac yn diwallu anghenion y boblogaeth.
- Gwaith adnewyddu i loches arall bresennol a gwaith uwchraddio i ddarpariaeth symud ymlaen.
- Gwaith adnewyddu i swyddfeydd a ddefnyddir gan ddefnyddwyr gwasanaeth
- Prosiectau gwella gwasanaethau:
- Gwelliannau i wasanaethau i weithio gyda phlant a phobl ifanc, fel dioddefwyr a'r rhai sy'n ymddwyn mewn ffordd niweidiol.
- Gwasanaethau 'siop un stop' (mynd i'r afael ag achosion o gyflawni trais a chefnogi dioddefwyr).
- Prosiectau diogelwch dioddefwyr
- Gwella ac uwchraddio offer a mannau i ddefnyddwyr gwasanaeth:
- Gwella mynediad a mannau i ddefnyddwyr gwasanaeth er mwyn darparu mynediad cyfartal.
- Offer digidol a TG os ydynt yn cefnogi defnyddwyr gwasanaeth.
Rhaid i'r prosiect cyfalaf gael ei gwblhau ym mlwyddyn ariannol 2025 i 2026.
Os ydych yn bwriadu gwneud cais am fwy nag un eitem, e.e. llety, adnewyddu, dodrefn, sicrhewch eich bod:
- yn cwblhau ceisiadau ar wahân neu
- yn rhoi rhestr o'r eitemau sy'n benodol yn eich cais
Sut i wneud cais
Llenwch y ffurflen gais gyda dogfennaeth ategol ac anfonwch e-bost at CSJ.Cyllid@llyw.cymru.
Rhaid anfon ceisiadau at CSJ.Cyllid@llyw.cymru a'ch cydlynwyr rhanbarthol erbyn 15 Tachwedd 2024 fan bellaf am 11.59pm.
Ni fyddwn yn derbyn ceisiadau anghyflawn na rhai hwyr.
Asesu’r ceisiadau
Bydd swyddogion Llywodraeth Cymru yn asesu ceisiadau yn:
- Sifft 1: gwirio bod yr holl wybodaeth wedi'i chwblhau (gan gynnwys dyfynbrisiau/prisiadau).
- Sifft 2: sgorio prosiectau ar sail meini prawf, gan gynnwys alinio ag Amcanion Strategol VAWDASV Llywodraeth Cymru, i bennu a ydynt yn bodloni nodau'r cynllun grant cyfalaf.