Neidio i'r prif gynnwy

Sut i wneud cais i ddod yn rhan o Goedwig Genedlaethol Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
22 Mehefin 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Pwy sy'n cael gwneud cais

Er mwyn bod yn gymwys, mae'n rhaid i chi fodloni'r canlynol:

  • bod yn berchen ar goetir neu reoli coetir yng Nghymru
  • dangos bod eich safle yn bodloni canlyniadau Coedwig Genedlaethol Cymru
  • bod â chynllun rheoli coetir yn ei le

Sut i wneud cais

Yn y lle cyntaf, dylech gysylltu â Swyddog Cyswllt Coedwig Genedlaethol Cymru. Gallant siarad â chi am eich cymhwystra. Gallant hefyd eich cefnogi drwy'r broses ymgeisio.

Dylech hefyd ddarllen y canllawiau a deall yr hyn y bydd angen i chi ei wneud. Statws Coedwig Genedlaethol Cymru: canllawiau a ffurflen gais

Byddwn yn ystyried ceisiadau bob chwarter.