Mae’n rhaid i weithredwr safle tirlenwi awdurdodedig lenwi’r ffurflen gais hon os yw’n bwriadu hawlio rhyddhad treth ar gyfer defnyddio deunydd wrth wneud gwaith adfer safle.
Mae’n rhaid gwneud y cais cyn dechrau ar y gwaith adfer.
Cyn i chi ddechrau arni
Bydd angen y wybodaeth ganlynol er mwyn llenwi'r ffurflen hon:
- eich rhif cofrestru ar gyfer y Dreth Gwarediadau Tirlenwi
- manylion eich busnes cofrestredig a’r safleoedd tirlenwi rydych chi'n eu gweithredu, gan gynnwys cyfeiriad pob safle tirlenwi awdurdodedig neu ddisgrifiad ohono
- dogfennau ategol sy'n esbonio manylion yr ardal rydych chi’n bwriadu ei hadfer, ac amodau'r drwydded amgylcheddol neu’r caniatâd cynllunio
Rhagor o arweiniad i helpu i lenwi’r ffurflen hon
Sut rydym yn defnyddio eich gwybodaeth
Gweler ein polisi preifatrwydd ynglŷn â sut rydym yn defnyddio'r wybodaeth y byddwch yn ei rhoi i ni.