Neidio i'r prif gynnwy

Mae benthyciadau di-log ar gael i adnewyddu eiddo gwag a’u gwneud yn fannau diogel i fyw ynddynt. Gelwir benthyciadau o’r fath yn fenthyciadau ‘Troi Tai’n Gartrefi.'

Mae’r arian ar gael cyn i’r gwaith gael ei ddechrau. Gall dalu am waith ar dai ac adeiladau masnachol. Mae hyn yn cynnwys rhannu eiddo yn fflatiau.

Rydym wedi clustnodi £43 miliwn ar draws Cymru ar gyfer benthyciadau gwella cartrefi a benthyciadau cartrefi gwag.

Cymhwystra

Gall unrhyw un wneud cais. £25,000 yw’r uchafswm y gellir ei fenthyg ar gyfer pob eiddo, a £250,000 yw’r uchafswm fesul cais.

Bydd unrhyw fenthyciad a gynigir yn cael ei sicrhau ar yr eiddo a bydd yn cymryd i ystyriaeth y morgais presennol. Ni all fod yn fwy na 80% o werth yr eiddo.

Gwneud cais

I gael rhagor o wybodaeth a gwneud cais, cysylltwch â’ch awdurdod lleol:

Chwiliwch:
Er enghraifft CF10 3NQ