Neidio i'r prif gynnwy

Mae tystiolaeth yn dangos fod mabwysiadu arferion mwy iach heddiw yn gallu lleihau’r risg o ddatblygu dementia pan fyddwch chi’n hŷn o gymaint â 60%.

Cyhoeddwyd gyntaf:
10 Chwefror 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae Llywodraeth Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru’n annog pobl yng Nghymru i addo i gymryd chwe cham i leihau’u risg dementia. 

Mae ail ran yr ymgyrch i leihau risg dementia’n lansio heddiw a’i fwriad yw codi ymwybyddiaeth y cyhoedd fod modd lleihau eich risg o ddementia, gan alw ar bob un gyda’r geiriau GWNA FE:

  • Gwiria dy iechyd yn gyson
  • Wyt ti’n cadw at dy bwysau?
  • Na! i ysmygu
  • Alcohol achlysurol cymedrol
  • Fedri di gerdded mwy bob dydd?
  • Edrych am hobi newydd.
Dyma’r Gweinidog dros Wasanaethau Cymdeithasol ac Iechyd Cyhoeddus, Rebecca Evans AC i esbonio:

“Mae’r risg o gael dementia’n cynyddu gydag oedran ac wrth i fwy a mwy o bobl fyw i fod yn hŷn, bydd y nifer o bobl fydd yn datblygu dementia hefyd yn cynyddu. Dyma gamau syml y gall pobl eu cymryd nid yn unig er mwyn lleihau eu risg o gael dementia, ond cyflyrau eraill hefyd, fel canser, clefyd y galon a strôc. Mae’r neges yn glir – paid ag aros; gwna fe heddiw i leihau dy risg.”

Un person sy’n benderfynol o gadw’n heini er mwyn helpu i leihau’i risg o gael dementia yw Norman Parselle, o Gasnewydd, sy’n 47 mlwydd oed. Collodd Norman ei fam a’i dad i ddementia, ac mae’n awyddus i weld eraill yn dilyn ei esiampl i fyw bywyd mwy iach er mwyn lleihau’u risg. Fel yr esbonia Norman: 

“Pan oedd fy rhieni’n dal yn fyw, roedd fy nheulu’n gwneud ymdrech fawr i sicrhau eu bod nhw’n cadw’n fywiog. Hyd yn oed pan aeth y dementia’n eithaf drwg, bydden ni’n mynd â nhw mas i lefydd. Bydden nhw’n chwarae sgitls yn rheolaidd, ac roedd cerddoriaeth yn chwarae yn eu cartref bob amser. Fe lwyddon ni i’w cadw nhw yn eu cartref hyd at chwe mis olaf eu bywyd cyn iddyn nhw farw, er mwyn iddyn nhw allu byw bywyd mor normal â phosib. 

“Pwy a ŵyr beth sydd rownd y gornel i neb ohonom ni? Ond rydw i yn gwybod fod peidio â chael digon o ymarfer corff, bod yn unig ac yn isel yn gallu cyfrannu at ddirywiad yng nghyflwr pobl â dementia, felly mae’n bosib y gall cadw’n heini a bywiog, a chymdeithasu gyda ffrindiau leihau’r risg o gael dementia a’i gadw at hyd braich am gyhyd â phosib. Dyna pam, ar ôl gweld y clefyd yn effeithio ar fy rhieni, y penderfynais i ddechrau ymwneud â’r clwb pêl-droed cerdded lleol yng Nghasnewydd. Mae tua 20 ohonom ni’n chwarae’n rheolaidd ar nos Lun, rhwng 6 a 7 yr hwyr yn neuadd chwaraeon Ysgol Uwchradd Llanwern. Rydw i’n joio’r tynnu coes a’r cyfeillgarwch sydd rhyngom ni, ac mae yna elfen o gystadleuaeth braf yn rhan o’r peth; mae’n fy nghadw i’n heini, ac mae’n lot fawr o sbort.”

Cefnogir yr ymgyrch gan sioe deithiol 10 niwrnod o hyd ledled Cymru i roi cymorth a chyngor i bobl ynglŷn â’r modd y gallan nhw leihau’u risg o ddementia. Ymhlith rhai o leoliadau allweddol y sioe deithiol mae: 

  • Canolfan Siopa Dewi Sant yng Nghaerdydd ar ddydd Sadwrn 11 Chwefror 2017 
  • Canolfan Gelfyddydau Aberystwyth, Ceredigion ar ddydd Mercher 15 Chwefror 2017
  • Canolfan Siopa’r Quadrant yn Abertawe ar ddydd Sadwrn 18 Chwefror 2017 
I’r rheiny sy’n methu â dod i un o’r sioeau teithiol, mae llawer o wybodaeth a chynghorion i helpu pobl i roi cychwyn arni drwy chwilio am Newid am Oes ar Facebook a Trydar.

Am wybodaeth am glybiau pêl-droed cerdded a mentrau eraill yn eich ardal leol, ewch i newidAmOes.org