Neidio i'r prif gynnwy

Brexit a pherthynas Cymru gydag Ewrop fydd ar frig yr agenda pan fydd gwleidyddion o bob cwr o'r cyfandir yn cyfarfod y Prif Weinidog, Carwyn Jones yng Nghaerdydd heddiw

Cyhoeddwyd gyntaf:
16 Tachwedd 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd yr Ysgrifennydd Cyllid, Mark Drakeford hefyd yn bresennol yn y trafodaethau gyda dros ugain o gynrychiolwyr lleol a rhanbarthol o'r Alban, Ffrainc, Iwerddon, Sbaen, yr Almaen, Sweden, Norwy a'r Iseldiroedd mewn cynhadledd dan yr enw 'Cydweithio Ewropeaidd ar ôl Brexit'.

Llywodraeth Cymru sy'n trefnu'r digwyddiad yn Neuadd y Ddinas gyda Chynhadledd y Rhanbarthau Morol Ymylol (CPMR), rhwydwaith Ewropeaidd sydd ag aelodau o 160 o ranbarthau ar draws yr UE a thu hwnt.

Yn y digwyddiad bydd Prif Weinidog Cymru ac arweinwyr rhanbarthau Ewropeaidd yn llofnodi 'Datganiad Caerdydd' yn ffurfiol, gan alw am barhau i gynnal perthynas gref a chydweithrediad rhwng y DU a gwledydd a rhanbarthau ar draws Ewrop ar ôl Brexit.

Dywedodd y Prif Weinidog, Carwyn Jones:

"Drwy ddod â chynrychiolwyr o bob cwr o Ewrop ynghyd a llofnodi 'Datganiad Caerdydd' rydyn ni'n dangos yn glir ein bod ni'n bwriadu cydweithio gyda'n partneriaid Ewropeaidd. Mae Cymru'n parhau i fod yn wlad agored, groesawgar ar lwyfan y byd, ac ni fydd Brexit yn newid hynny.

"Rydyn ni wedi dweud yn glir o'r cychwyn cyntaf nad ydyn ni'n ceisio dad-wneud Brexit, ond rydyn ni'n rhannu amrywiaeth o fuddiannau - o fasnach i ddiogelu hawliau dinasyddion y Deyrnas Unedig a'r Undeb Ewropeaidd - ac mae'n rhaid i hynny gael blaenoriaeth yn y trafodaethau.

"Er bod Brexit yn mynd i effeithio ar bob gwlad a rhanbarth yn Ewrop, mae'r digwyddiad hwn a'n datganiad ar y cyd yn dangos na ddylai fod yn rhwystr i'r berthynas gadarn, gref sy'n fanteisiol i bob un ohonom."