Bydd y Prif Weinidog yn cynrychioli Cymru yn y Fforwm Celtaidd a'r Ŵyl Interceltique yn Llydaw yr wythnos hon.
Cynhelir y Fforwm Celtaidd cyntaf yn Rennes ddydd Iau 3 Awst, cyn dechrau'r Ŵyl Interceltique flynyddol yn Lorient, sy'n dechrau ddydd Gwener (4 Awst).
Bydd y Fforwm Celtaidd yn dod ag arweinwyr o'r gwledydd a'r rhanbarthau Celtaidd at ei gilydd - bydd yn gyfle i gryfhau perthnasoedd a thrafod meysydd ar gyfer cydweithio posib. Bydd Prif Weinidog Cymru yn cynnal cyfarfodydd dwyochrog gydag arweinwyr Celtaidd eraill yn ystod y Fforwm.
Gŵyl Interceltique de Lorient yw'r dathliad blynyddol mwyaf o ddiwylliant Celtaidd o'i fath. Mae'r ŵyl yn ddathliad o draddodiadau'r cenhedloedd a'r rhanbarthau Celtaidd, gyda cherddoriaeth, dawns a'r celfyddydau gweledol, chwaraeon a gastronomeg. Yn 2022, denodd yr ŵyl tua 900,000 o bobl dros 10 diwrnod.
Fel rhan allweddol o’r flwyddyn Cymru yn Ffrainc, bydd presenoldeb Cymreig cryf yn yr ŵyl eleni, gan gynnwys perfformiadau cerddorol gan y triawdau gwerin VRï a The Trials of Cato, yn ogystal ag Only Boys Aloud a'r delynores Meinir Olwen. Bydd hefyd arddangosfa o ffotograffau gan Scott Taylor a chynhyrchiad dawns, Qwerin, i'w berfformio yn y Théâtre de Lorient.
Dywedodd Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford:
“Mae'r Fforwm Celtaidd yn gyfle gwych i ddod at ein gilydd fel gwledydd a rhanbarthau Celtaidd, i adeiladu ar ein cysylltiadau diwylliannol a hanesyddol a chwilio am feysydd i gydweithio arnynt yn y dyfodol, fel ynni morol.
“Cyn Cwpan Rygbi'r Byd yn ddiweddarach eleni, mae hefyd yn gyfle i ddathlu perthynas Cymru a Ffrainc, adfywio partneriaethau presennol a phlannu'r hadau ar gyfer cydweithio yn y dyfodol mewn diwylliant, chwaraeon, yr economi ac arloesedd.”
Dywedodd Antwn Owen-Hicks, arweinydd dirprwyo Cymru yn yr Ŵyl Interceltique de Lorient:
" Mae amrywiaeth gryf o artistiaid yn ein cynrychioli yn Lorient, sy'n adlewyrchu'r datblygiad parhaus a'r hyder yn ein celfyddydau a'n diwylliant.
“Mae bob amser llawer o ddiddordeb yn yr artistiaid Cymreig ymhlith mynychwyr yr ŵyl. O ganeuon Only Boys Aloud i berfformiadau'r delyn deires anhygoel Cerys Hafana, neu hwyl dawnsio gwerin stryd cwiar Qwerin, bydd ein rhaglen eleni yn gyfle i ddarganfod talentau a diwylliant Cymru gan ddenu'r gynulleidfa i ymweld â Chymru.”
Gyda chefnogaeth Cyngor Celfyddydau Cymru, a dan arweiniad asiantaeth Celfyddydau Rhyngwladol Cymru, mae rhaglen ddiwylliant Cymru yn Ffrainc yn ddathliad o'r celfyddydau, ieithoedd, chwaraeon a chân.