Gwisgoedd ysgol rhatach ar eu ffordd o bosibl, diolch i ganllawiau statudol newydd
Mae’r ymgynghoriad yn ceisio barn ynghylch canllawiau statudol drafft a fyddai’n arwain at roi dull mwy cyson ar waith wrth i gyrff llywodraethu ysgolion fynd ati i bennu polisïau ar gyfer gwisgoedd ysgol a phryd a gwedd.
Yn ôl y canllawiau newydd, byddai disgwyl i gyrff llywodraethu ystyried ffyrdd o leihau’r costau sydd ynghlwm wrth wisgoedd ysgol. Fe allai hyn olygu bod modd i gyrff llywodraethu bennu eitemau sylfaenol a lliwiau, ond nid steil. Byddai hyn yn golygu y gellid prynu eitemau mewn siopau cadwyn am bris rhesymol, ac nid gan un cyflenwr yn unig.
Ymhellach, fe fyddai ysgolion yn cael eu hannog i ystyried a oes gwir angen logo’r ysgol ac, os felly, a ddylid cyfyngu’r defnydd ohono i un eitem yn unig, neu ei ddarparu’n rhad ac am ddim a’i wnïo, ei smwddio neu ei lynu ar ddillad.
Gofynnir i gyrff llywodraethu hefyd ystyried a oes angen gwisgoedd ysgol gwahanol ar gyfer yr haf a’r gaeaf.
Mae cydraddoldeb yn rhan allweddol o’r canllawiau, gyda chyrff llywodraethu’n gorfod meddwl am faterion fel gwahaniaethu ar sail hil neu gred grefyddol, anabledd, hunaniaeth rywiol a hunaniaeth o ran rhywedd – gyda’r olaf yn rhoi ystyriaeth i wisgoedd ysgol niwtral o ran y rhywiau a sut y gall cyrff llywodraethu ddiwallu anghenion disgyblion sy’n ailbennu eu rhywedd.
Lansiodd yr Ysgrifennydd Addysg y canllawiau drafft, fel y gellir ymgynghori yn eu cylch, yn Ysgol Glan Morfa yn y Sblot, Caerdydd heddiw. Mae gan yr ysgol gynllun ar waith i helpu i leihau costau gwisgoedd ysgol i rieni, gydag eitemau newydd ac ail-law naill ai’n cael eu rhoi am ddim i rieni neu am werth enwol.
Dywedodd Kirsty Williams:
“Gyda gwisgoedd ysgol, mae teuluoedd yn wynebu nifer o gostau gwahanol, ac rydw i eisiau sicrhau ein bod yn gwneud popeth o fewn ein gallu i’w gwneud yn fwy fforddiadwy a hygyrch.
“Yn yr haf, lansiais ein cynllun ‘Grant Datblygu Disgyblion – Mynediad’, sydd eisoes yn helpu rhieni gyda chostau gwisgoedd ysgol a hefyd gyda chostau offer, dillad chwaraeon ac eitemau ar gyfer gweithgareddau y tu allan i’r ysgol.
“Trwy gyflwyno canllawiau statudol, rydw i’n disgwyl y bydd cyrff llywodraethu’n rhoi dull llawer mwy cyson ar waith wrth ymdrin â phethau fel cost, ac y byddan nhw hefyd yn dangos llawer mwy o hyblygrwydd yn ystod tywydd poeth iawn neu oer iawn.
“Ond mae hyn yn mynd ymhellach o lawer nag ystyriaethau ymarferol yn unig; mae’n ymwneud â chydraddoldeb a llesiant y disgyblion. Dw i ddim eisiau i’n dysgwyr, am ba bynnag reswm, deimlo’n anghyfforddus ynglŷn â’u gwisg ysgol. Dyna pam mae hi’n bwysig i gymaint â phosibl o bobl ifanc gymryd rhan yn yr ymgynghoriad hwn a dweud eu dweud.”
Gallwch gwblhau’r ymgynghoriad yma: https://beta.llyw.cymru/canllawiau-ar-gyfer-cyrff-llywodraethu-ysgolion-ar-bolisiau-gwisg-ysgol-ac-edrychiad-disgyblion