Neidio i'r prif gynnwy

Heddiw, roedd Kirsty Williams AC wedi cyhoeddi canllawiau statudol i wneud gwisgoedd ysgol yn fwy fforddiadwy, o fewn cyrraedd pawb, ac yn niwtral o ran rhywedd.

Cyhoeddwyd gyntaf:
10 Gorffennaf 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae'r canllawiau statudol yn dod i rym o 1 Medi 2019 ymlaen, ac maent yn rhoi cyngor i gyrff llywodraethu a phenaethiaid ar faterion sy'n ymwneud â pholisïau gwisg ysgol. Roedd canllawiau blaenorol 2011 yn rhai anstatudol, ac felly nid oedd yn ofynnol yn ôl y gyfraith i ysgolion roi sylw iddynt. 

Disgwylir i gyrff llywodraethu ystyried ffyrdd o gadw costau gwisgoedd ysgol mor isel ag sy'n bosibl. Gallai hynny gynnwys fynnu cael eitemau sylfaenol a lliwiau ond i beidio â phennu'r steiliau. Golyga hynny y gallai eitemau gael eu prynu o fwy nag un safle gwerthu. Disgwylir i ysgolion ystyried a yw dangos logo yr ysgol yn gwbl angenrheidiol, ac a ddylid ei ddangos ar un eitem o'r wisg yn unig, neu a ddylai gael ei ddarparu am ddim.

Byddai hefyd ddisgwyl i bolisi ar wisg ysgol fod yn niwtral o ran rhywedd. Mae hynny'n golygu pe byddai rhestr o ddillad yn cael ei chyhoeddi gan yr ysgol, ni fyddai'r eitemau'n cael eu neilltuo ar gyfer rhywedd penodol. Er enghraifft, ni fyddai trowsus yn cael ei ddisgrifio yn 'eitem i fechgyn'.

Dywedodd Kirsty Williams, y Gweinidog Addysg:

Mae teuluoedd yn gwybod yn iawn pa mor ddrud y gall gwisgoedd ysgol newydd fod. Mae'r canllawiau hyn yn rhoi cyfrifoldeb statudol ar ysgolion i ystyried fforddiadwyedd gwisgoedd, eu bod o fewn cyrraedd pawb, a'u bod ar gael i bawb, wrth bennu eu polisi ar wisg ysgol ac edrychiad disgyblion.

Ynghyd â'r Grant Datblygu Disgyblion - Mynediad, bydd y canllawiau hyn yn helpu i leihau'r baich ar deuluoedd, fel bod ein plant yn gallu canolbwyntio ar gyflawni eu potensial a mwynhau bywyd academaidd a chymdeithasol iach.

Ni ddylen ni fod yn gorfodi syniadau sydd wedi dyddio bellach am ba ddillad sy'n addas am eu rhywedd, yn enwedig os yw'n golygu eu bod yn gwisgo rhywbeth y maen nhw'n teimlo'n anesmwyth yn ei wisgo.

Mae'r canllawiau newydd hyn yn ei gwneud yn glir na ddylai polisïau gwisg ysgol fynnu eitemau o ddillad ar sail rhywedd.