Defnyddiwch wirydd hygyrchedd mewnol Microsoft i helpu i sicrhau bod eich cynnwys yn hawdd i bobl o bob gallu ei ddarllen a llywio drwyddo.
Mae’n dod o hyd i’r rhan fwyaf o broblemau hygyrchedd ac yn egluro pam y gallai pob un fod yn broblem bosibl i ddefnyddwyr anabl. Mae hefyd yn cynnig awgrymiadau ar sut i ddatrys pob problem.
Rhedeg y gwirydd hygyrchedd:
- dewis Ffeil yna Gwybodaeth
- dewis Chwilio am Broblemau
- dewis Gwirio Hygyrchedd o’r gwymplen
- bydd y paen tasgau Gwirydd Hygyrchedd yn ymddangos wrth ymyl eich cynnwys ac yn dangos canlyniad yr archwilid
- dewiswch broblem o dan Canlyniadau Archwilio, a bydd yn mynd yn syth at y cynnwys anhygyrch yn eich ffeil
- mae’r panel Gwybodaeth Ychwanegol yn dweud wrthych pam a sut i ddatrys y broblem honno
Caiff problemau eu categoreiddio yn ôl faint y maent yn effeithio ar hygyrchedd, a rhaid datrys pob gwall:
- gwallau: mae’r rhain yn ei gwneud yn anodd neu’n amhosibl i bobl ag anableddau ddarllen a deall y ddogfen
- rhybuddion: yn y rhan fwyaf o achosion, maent yn golygu ei bod yn anodd i bobl ag anableddau ddeall y ddogfen
- awgrymiadau: mae pobl anabl yn gallu deall, ond byddai cyflwyno’r wybodaeth mewn ffordd arall yn gwella profiad y defnyddiwr
I gael eich hysbysu am broblemau hygyrchedd wrth ichi weithio, cadwch y paen tasgau ar agor wrth olygu.
Mae’r gwirydd hygyrchedd yn nodi’r rhan fwyaf o broblemau, ond mae rhai problemau nad yw’n gallu eu canfod. Mae’r rhain yn cynnwys:
- lliw: ni fydd yn gwirio am gyferbyniad lliw neu pan gaiff gwybodaeth ei chyfleu gan ddefnyddio lliw yn unig
- rhestru: ni fydd yn rhybuddio am restrau nad ydynt wedi’u fformadu fel rhestrau
- maint y testun: ni fydd yn rhybuddio am destun sy’n anodd ei ddarllen, a dylai dogfennau fod mewn teip ‘Sans Serif’ ac yn o leiaf 12pt o ran maint
- capsiynau caeedig: mae’n rhoi gwybod am gapsiynau caeedig sydd ar goll ond mae’n bosibl na fydd yn codi problemau gyda chapsiynau agored neu ddim deialog