Neidio i'r prif gynnwy

Dilynwch y canllawiau yma i helpu sicrhau bod defnyddwyr yn cael gwybodaeth fanwl gywir gan LLYW.CYMRU.

Cyhoeddwyd gyntaf:
13 Tachwedd 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Trosolwg

Mae dylunwyr cynnwys yn gyfrifol am sicrhau bod cynnwys yn addas i ddefnyddwyr, ac am gyhoeddi ar LLYW.CYMRU. Mae arbenigwyr pwnc yn gyfrifol am y ffeithiau.

Rôl yr arbenigwr pwnc

Dylai arbenigwyr pwnc ond wneud sylwadau ar gywirdeb ffeithiol y cynnwys. Nid ydynt yn newid steil na thôn.

Dylent esbonio beth sy'n anghywir a pham. Er enghraifft '£150 yw'r ffi ac nid £130', yn hytrach nag ailysgrifennu'r cynnwys. Dylent hefyd nodi ymhle mae'r camgymeriad. Er enghraifft 'o dan y pennawd 'faint mae'n costio'.'

Rôl y dylunydd cynnwys

Yn gynnar yn y broses, bydd angen i'r dylunydd cynnwys esbonio'r broses o wirio ffeithiau i'r arbenigwr pwnc. Efallai y bydd y canllaw yma'n ddigon, neu efallai bydd angen esbonio'n bersonol.

Efallai bydd arbenigwyr pwnc am newid testun i fod yr un peth â steil y maen nhw'n arfer ag ef (fel ysgrifennu academaidd neu bolisi). Weithiau byddant yn cynnwys jargon. Dyletswydd y dylunydd cynnwys yw esbonio iddynt pam fod y jargon wedi ei dynnu, neu ei fod wedi ei esbonio mewn iaith symlach.

Pryd mae gwirio ffeithiau'n digwydd

Mae gwirio ffeithiau'n digwydd unwaith i'r dylunydd cynnwys greu rhywbeth sydd mor agos â phosibl i fod yn barod. Mae hyn fel arfer yn digwydd ar ôl 2i (cydweithiwr yn adolygu). Gwnewch yn siŵr bod yr arbenigwr pwnc yn gweld fersiwn sydd mor agos i fod yn barod â phosibl.