Defnyddiwch y gwasanaeth yma i weld os allwch gael hyd at 30 awr yr wythnos o ofal plant neu addysg gynnar os yw eich plentyn yn 3 neu 4 blwydd oed.
Cyn cychwyn
Bydd angen i chi wybod:
- eich incwm chi
- incwm eich partner (os oes gyda chi un)
- eich buddion
- buddion eich partner (os oes gyda chi un)
Cadarnhewch eich cymhwysedd parhaus
Rhaid i rieni gadarnhau eu bod yn gymwys ar gyfer Cynnig Gofal Plant Cymru bob tymor. Byddwch yn derbyn anogwr i wneud hynny i'r cyfeiriad e-bost sydd wedi'i gofrestru gyda'r gwasanaeth hwn. Bydd angen i chi naill ai gadarnhau nad oes unrhyw newidiadau i'ch amgylchiadau neu ddiweddaru eich manylion trwy'r platfform ar-lein.
Bydd angen i rieni nad ydynt yn ymateb cyn y dyddiad cau ddarparu tystiolaeth o gymhwysedd parhaus.
Mae polisi Cynnig Gofal Plant Cymru hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i o leiaf 20% o’r rhieni a ymatebodd ddarparu tystiolaeth o gymhwysedd parhaus.
Os gofynnir i chi am brawf o’ch cymhwysedd parhaus rhaid i chi lanlwytho tystiolaeth i’ch cyfrif ar-lein Cynnig Gofal Plant Cymru.
O ddangosfwrdd eich cyfrif dewiswch 'Dweud wrthon ni am newid yn eich manylion'. Os oes unrhyw rai o’ch manylion wedi newid ers i chi wneud cais am y Cynnig dewiswch ‘Newid’ i’w diweddaru.
Sgroliwch i lawr i'r adran 'Dogfennau wedi'u lanlwytho' i gyflwyno'ch tystiolaeth wedi'i diweddaru o gymhwysedd parhaus. Dewiswch 'Newid' i uwchlwytho dogfennau newydd o'ch dyfais. Nid oes angen i chi ail-lanlwytho tystysgrif geni eich plentyn.
Gweld rhestr o ddogfennau sydd eu hangen i ddangos tystiolaeth o gymhwysedd parhaus.
Os na fyddwch yn darparu tystiolaeth o gymhwysedd parhaus ar gais, byddwch yn cael eich rhoi mewn Cyfnod Eithrio Dros Dro.
Os oes angen unrhyw gymorth arnoch gyda'r broses hon cysylltwch â ni.