Araith cynhadledd Colegau Cymru ar 12 Mehefin 2019 gan Kirsty Williams, Y Gweinidog dros Addysg.
Bore da bawb.
Mae’n braf bod yma gyda chi heddiw – llawer o ddiolch am y gwahoddiad.
Yn gyntaf, a gaf i hefyd eich llongyfarch ar eich dewis o thema ar gyfer y gynhadledd eleni.
Fel y gŵyr llawer ohonoch, mae’r syniad o “werth cyhoeddus” mewn addysg - cenhadaeth ddinesig er lles pawb - wrth wraidd fy nghenhadaeth genedlaethol wrth ddiwygio’r maes addysg.
Rwy’n siŵr y bydd Iestyn wedi dod ar draws hyn yn ei gwrs MBA, ond yr Athro Mark Moore o Ysgol Lywodraethu Kennedy Harvard fathodd y term “public value” neu “gwerth cyhoeddus” yng nghyd-destun rheolaeth gyhoeddus.
Mae’n sôn am ddod o hyd i’r hyn sy’n ‘cyd-daro’ neu’n ‘ffitio’ rhwng sefydliad, ei reolaeth strategol a’i amgylchedd gweithredu allanol.
Ac rydym yn creu gwerth cyhoeddus trwy ddod o hyd i hynny.
Mae’n gyfnod o newid ac ansicrwydd mawr inni gyd.
Does dim sicrwydd y bydd ein darnau jig-so cyfredol yn dal i ddod ynghyd i greu darlun twt a thaclus.
Ond dw i’n argyhoeddedig eich bod chi - ein sector addysg cryf ac amrywiol - yn gallu ateb yr heriau hynny.
Ac mewn ffordd, mae’n addas ein bod ni’n cyfarfod yma ar Heol Casnewydd.
Ar draws y ffordd, tua 140 mlynedd yn ôl, sefydlwyd Coleg Prifysgol De Cymru a Sir Fynwy.
Yn nhraddodiad datblygiad addysg yng Nghymru, roedd yn rhan o chwyldro dinesig, economaidd ac academaidd.
Coleg y bobl ar gyfer y bobl.
A oedd nid yn unig yn eu paratoi at radd brifysgol
Ond dosbarthiadau nos yma yn y ddinas a ledled y Cymoedd.
Cydraddoldeb rhwng dynion a menywod
A darparu addysg dechnegol a galwedigaethol mewn diwydiannau allweddol - yn lleol ac yn genedlaethol.
Nawr, rwy’n gwybod bod ffyrdd – neu ffordd benodol – yn bwnc trafod mawr i’r Llywodraeth ac i’r genedl ar hyn o bryd…
Ond beth ddigwyddodd yma oedd dechrau’r daith tuag at ddysgu a datblygu i bawb, addysg gyhoeddus o’r iawn ryw.
Felly, yn yr ysbryd hynny, hoffwn gyflwyno pum pwynt allweddol ar gyfer y cyfnod i ddod:
Pwynt 1- Anelu at un system sgiliau i Gymru
Mae ein strategaeth genedlaethol ‘Ffyniant i Bawb’, yn cydnabod bod darparu sgiliau yn un o’r pum maes blaenoriaeth sydd â’r potensial mwyaf i gyfrannu at ffyniant a lles hirdymor ein cenedl.
Gorau po fwyaf o sgiliau sydd gan bobl er mwyn gwella’u siawns o gael swydd deg, sefydlog a gwerth chweil.
Po gryfaf yw’r sylfaen sgiliau yng Nghymru, gorau po fwyaf o siawns sydd gennym o ddenu busnesau newydd a thyfu’r rhai cyfredol i wella ffyniant.
Mae’r strategaeth hefyd yn cydnabod bod angen inni weithio’n wahanol – cydweithio mwy fel Llywodraeth Cymru a gyda’n partneriaid, er mwyn cyrraedd y nod o sicrhau ffyniant i bawb.
Ein her yw helpu pobl i ddatblygu’r sgiliau sydd eu hangen arnynt i gael gwaith, helpu busnesau i sefydlu, arloesi a thyfu a chreu swyddi sefydlog, sicr a gweddus, gan ganolbwyntio ar anghenion amrywiol unigolion.
Gan weithio gyda Phartneriaethau Sgiliau Rhanbarthol, gallwn sicrhau bod y ddarpariaeth yn ymateb i anghenion sgiliau penodol pob rhan o’r wlad, gan gydnabod y ffaith y bydd pwysau a blaenoriaethau ar golegau yn amrywio’n aruthrol o le i le.
Allwn ni dim anwybyddu’r modd mae rhannau eraill o’r DU yn mynd i’r afael ag addysg a hyfforddiant ôl-orfodol, fwy nag y gall yr un ohonom ragweld beth fydd goblygiadau gadael yr Undeb Ewropeaidd os mai dyna fydd ein hanes yn y pen draw.
Bydd gweithlu medrus, addysgedig, yn helpu Cymru i ddenu busnesau arloesol, o werth mawr, sy’n seiliedig ar wybodaeth ac sy’n addasu’n well i’r amgylchiadau economaidd sy’n prysur newid.
Wrth edrych tua’r dyfodol, mae’n rhaid inni ystyried dysgu galwedigaethol yn gwbl gyfartal i’r llwybr academaidd os ydym am wireddu ein gweledigaeth o genedl fedrus sy’n ymateb i’r anghenion economaidd newydd. Rydym wrthi’n gweithio tuag at un system sgiliau ar gyfer addysg ôl-16 yng Nghymru er mwyn cryfhau a chydlynu’r ddarpariaeth sgiliau yn well.
I’r perwyl hwnnw, dw i’n edrych ymlaen at glywed y canlyniadau a’ch safbwyntiau chi o’r gweithdy a gynhelir yn nes ymlaen bore ‘ma.
Wrth symud i bwynt 2 - Dau gam bywyd: pobl ifanc ac oedolion
Dylai’r un cyfleoedd priodol fod ar gael i bob dysgwr.
Rhaid i ystod eang ac addas o lwybrau ganiatáu mynediad i bob lefel o ddysgu, gyda threfn bontio glir rhwng y llwybrau galwedigaethol, technegol ac academaidd.
Mae dysgwyr angen mynediad i’r llwybrau priodol hyn ar gamau gwahanol yn eu bywydau, sy’n cyd-fynd â’u hanghenion unigol a blaenoriaethau economaidd a chymdeithasol Llywodraeth Cymru.
Dw i’n hynod falch fod y Prif Weinidog a minnau wedi ymrwymo i archwilio hawl Gymreig newydd i ddysgu gydol oes.
I gynorthwyo pobl ar bob pwynt o’u bywydau, i allu dysgu sgiliau newydd, i ailhyfforddi, a sicrhau bod pob unigolyn sy’n byw yng Nghymru yn cael cyfle i ffynnu yn ein cymdeithas.
Rydym yn bwrw’r ymrwymiad hwn ymlaen nawr, ac yn ei brofi gyda phartneriaid, i weld beth mae’r geiriau hyn yn ei olygu’n ymarferol. Da chi, cyfrannwch at y gwaith yma.
Hefyd, dw i’n credu bod angen inni nodi ffyrdd o helpu pobl i wneud dewisiadau mwy effeithiol rhwng yr opsiynau gwahanol sydd ar gael iddyn nhw’n 16 ac 18 oed, fel y gallant wneud penderfyniadau hyddysg am eu dyfodol.
Gallai hyn gynnwys rhagor o wybodaeth am botensial cyflog swyddi gwahanol, a pha gymwysterau sydd eu hangen i’w cael, yn ogystal â sicrhau mynediad i amrywiaeth berthnasol o lwybrau academaidd, technegol neu alwedigaethol o’r radd flaenaf.
Edrychaf ymlaen at glywed eich barn ar beth rydyn ni’n ei wneud yn dda, a sut allwn ni wella yng ngweithdy’r bore.
Sy’n dod â fi at Bwynt 3 – y Tri Rhanbarth Sgiliau o Gymru sy’n cynllunio’n effeithiol ar gyfer darpariaeth dysgu effeithiol yn eu hardal hwy.
Rydym yn dal i weithio’n agos gyda’r tair Partneriaeth Sgiliau Rhanbarthol, sy’n allweddol o ran nodi’r galw am sgiliau ar hyd a lled ein gwlad.
Maen nhw’n dal i ddatblygu strategaethau cadarn i ymgysylltu â chyflogwyr ac yn gweithio gyda chyflogwyr i ddeall y prinder sgiliau a’r bylchau sgiliau yn well.
Mae cynlluniau cyflogaeth a sgiliau yn cyfleu blaenoriaethau rhanbarthol sydd, yn eu tro, yn helpu i ddosbarthu cyllid sgiliau Llywodraeth Cymru.
Er mwyn gwella’r broses hon ymhellach, mae angen rhagor o gydweithio ledled sefydliadau Cymru, ar y cyd â chyflogwyr, er mwyn ymateb i alwadau rhanbarthol am swyddi a sgiliau.
Mae hyn yn golygu gwrando’n astud ar gyflogwyr a gweithio gyda’r Partneriaethau Sgiliau Rhanbarthol fel cyrff strategol, i gytuno ar flaenoriaethau rhanbarthol sy’n cyd-fynd â’r cyfleoedd sy’n gyrru twf economaidd a’n sectorau sylfaen o bwys.
Byddwch yn ymwybodol fod Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau’r Cynulliad yn cynnal Ymchwiliad i’r Partneriaethau Sgiliau Rhanbarthol.
Edrychaf ymlaen at argymhellion yr Ymchwiliad, a fydd yn llywio’r modd rydyn ni’n cryfhau ein dulliau gweithio rhanbarthol ymhellach.
Ac ymlaen i bwynt 4 – dwyn y Pedwar Sector yn un trwy greu Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil i Gymru (CTER).
Bydd y Comisiwn arfaethedig yn canolbwyntio ar y pedwar is-sector sy’n dod at ei gilydd: Addysg Bellach, gan gynnwys y chweched dosbarth, dysgu oedolion yn y gymuned, dysgu yn y gweithle a phrifysgolion.
Fy uchelgais yw datblygu system addysg a hyfforddiant ôl-orfodol gydlynus yng Nghymru sy’n hawdd i’w llywio ar gyfer ein dysgwyr ac sy’n ein helpu i fod yn gystadleuol ar lwyfan byd.
Rwy’n ymroi i’r egwyddor fod dysgu ac addysgu, yn ogystal ag ymchwil, yn gallu golygu mantais wirioneddol i ni.
A chredaf y bydd hyn yn caniatáu inni gydnabod yn well rôl gynyddol addysg bellach ym maes ymchwil, arloesi a throsglwyddo gwybodaeth.
Bydd y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil yn cynllunio ar gyfer sector integredig. System sy’n sbarduno a hwyluso cydweithio rhwng darparwyr ar draws y sector ôl-16 er mwyn gwasanaethu anghenion dysgwyr, cyflogwyr, y gymuned ehangach a’r economi, gan gael gwared ar ddyblygu a chystadleuaeth wastraffus wrthgynhyrchiol.
Rydym yn gweld hyn yn cael ei gyflawni trwy system gynllunio a chyllido gryfach, fwy integredig ac ymatebol.
Rhaid inni sicrhau bod addysg bellach ac uwch, dysgu yn y gweithle a phrentisiaethau wedi’u cysylltu’n well, yn fwy hyblyg, gyda golwg gliriach tuag at ddysgu ar lefel uwch a/neu gyflogaeth.
Sydd, wrth dynnu at y terfyn, yn fy arwain at Bwynt 5 - rydyn ni wedi caniatáu Pum mlynedd i roi’r trefniadau newydd ar waith trwy greu’r Comisiwn.
Mae’n hanfodol ein bod ni’n ei wneud yn iawn, a dyna pam rydym yn cymryd ein hamser, er mwyn sicrhau llais i bawb.
Dysgais fy ngwers ar hyn pan ddechreuais i yn fy swydd, a mynd i’r afael â’r dasg o ddiwygio’r cwricwlwm ysgolion.
Y cynllun gwreiddiol oedd y ‘big bang approach’ – ei gyflwyno dros nos, i bob ysgol a phob grŵp blwyddyn.
Gwrandewais ar y proffesiwn ac astudiais y dystiolaeth ryngwladol.
Roedd hi’n amlwg ein bod ni’n mynd o’i chwmpas hi mewn ffordd a fyddai’n arwain at fethiant.
Doedd neb wedi ceisio gwneud hynny o’r blaen.
Doedd gennym ni mo’r cynlluniau dysgu proffesiynol ar waith.
Roedden ni’n disgwyl symud i’r drefn newydd cyn cynnal adolygiad trylwyr o’r asesiadau a’r cymwysterau.
Felly, mae gennym gyfnod cyflwyno llawer hirach erbyn hyn – a bydd yn cael ei gyflwyno fesul tipyn, gan ddilyn cohortau Blwyddyn 7.
Dyw hi byth yn rhwydd i wleidydd ddweud ein bod ni am gymryd mymryn mwy o amser – ond roedd yn benderfyniad cywir.
Felly, dw i’n argyhoeddedig ein bod ni wedi mabwysiadu’r ymagwedd gywir at sefydlu’r Comisiwn.
Ein hathroniaeth yw creu un system, un llais, un ymagwedd at gynllunio a chyllido.
Ond mae’n ddyddiau cynnar ar y rhaglen.
Bydd ymgysylltu â rhanddeiliaid allweddol yn hanfodol gydol y broses…mae partneriaeth yn allweddol i mi.
Mae’r gweithdy bore ’ma yn gam cynnar o ran ein paratoi i ddechrau mynd i’r afael â rhai o heriau ein system ar hyn o bryd.
Dw i’n ymrwymo i barhau i ymgysylltu a gwrando ar bob partner gan gynnwys y dysgwyr eu hunain.
Dw i’n benderfynol y dylai’r dysgwr fod yn ganolog i’n holl ddiwygiadau, gyda chynigion i gryfhau a chysoni ymgysylltiad a chynrychiolaeth dysgwyr ar draws y sector.
Bydd ein newidiadau strwythurol, trwy gydfenter a chydweithio, yn darparu dull systemau cyfan a fydd yn cyflawni dros ddysgwyr a’r economi. Ond ar yr un pryd, ac mae’n rhaid i mi bwysleisio hyn, rydym ni’n dal yn gwbl ymroddedig i annibyniaeth sefydliadol a rhyddid academaidd – gan gydnabod y ffaith fod rhyddid o’r fath yn sanctaidd mewn democratiaeth fodern.
Wrth gloi, dw i’n troi tua’r sector am eich cymorth a’ch cydweithrediad fel arfer…a ninnau’n wynebu cyfnod digon heriol.... ac mae’n rhaid inni gydnabod cyfraniad pwysig y gweithwyr wrth fapio’r dyfodol. Mae yna heriau sydd angen eu goresgyn, ac ni allwn wneud hynny neu ateb yr heriau neu gyflawni’r gwelliannau ar ein pen ein hunain. Dim ond trwy gydweithio y gallwn gyrraedd y nod.
Mae gwerth gwirioneddol mewn meithrin partneriaethau newydd, manteisio ar holl gyfoeth ac amrywiaeth ymarfer ledled y sector ac yng nghyd-destun y gwledydd datganoledig.
Mae gennym gyfle unigryw i ddysgu oddi wrth ein gilydd, trwy rannu arferion a chronni profiad a gwybodaeth er mwyn gwella ansawdd gwasanaethau i ddinasyddion a busnesau fel ei gilydd.
A thrwy hynny, byddwn yn gallu rhoi darnau ola’r jig-so at ei gilydd, gwneud i bopeth ffitio gyda’i gilydd a chyflawni gwerth cyhoeddus go iawn.
Mwynhewch weddill y gynhadledd.
Diolch yn fawr.