Neidio i'r prif gynnwy

Bu Ken Skates, Ysgrifennydd yr Economi, yn ymweld â Palé Hall ger y Bala  i longyfarch y gwesty ar gael ei ddyfarnu’n westy pum seren cyntaf y gogledd ac ennill Gwobr Aur Croeso Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
17 Gorffennaf 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Yn ystod ymweliad graddio diweddar, llwyddodd y gwesty 5 seren – un o dri yng Nghymru – i gael sgôr cyffredinol o 98%. Yn ogystal, dyfarnwyd y Wobr Aur iddo – gwobr a ddyfernir i lety o safon uchel eithriadol.  

Alan ac Angela Harper yw perchnogion Palé Hall, ac fe aethon nhw ati i adfer yr adeilad hanesyddol i’w ogoniant blaenorol cyn ei agor ym mis Medi 2016. Mae Michael Caines, un o gogyddion mwyaf talentog ac adnabyddus y DU, yn rhoi ei gyngor amhrisiadwy ar y bwydydd a’r diodydd a weinir yn y gwesty, gyda Gareth Stevenson, y Prif Gogydd, yn goruchwylio’r cyfan. Mae’r prydau bwyd yn canolbwyntio ar y cynhwysion lleol sydd ar gael yng nghyffiniau’r gwesty, gan gynnwys cig o Wynedd a Sir Ddinbych a mêl o Landderfel.

Yn ôl Ysgrifennydd yr Economi: 

“Roedd hi’n bleser cael ymweld â Palé Hall a chael cyflwyno’u Gwobr Aur iddyn nhw - ac wrth gwrs eu llongyfarch ar eu hymdrechion a’u llwyddiannau ers agor y llynedd. Mae Palé Hall yn westy heb ei ail a fydd yn siŵr o ddenu pobl i Gymru. Mae ennill statws 5 seren a Gwobr Aur yn dipyn o gamp. Nod y Wobr Aur yw gwobrwyo ansawdd rhagorol a chysur a lletygarwch eithriadol yn y sector â gwasanaeth yng Nghymru. Mae busnesau gwobr aur yn rhagori ar ddisgwyliadau cwsmeriaid ac yn wasanaethau o’r radd flaenaf ym mhob ffordd. Mae busnesau fel Palé Hall yn gwneud cyfraniad arbennig i ansawdd cynnyrch twristiaeth Cymru, a dymunaf bob llwyddiant i’r perchnogion yn y dyfodol.

“Mae twristiaeth yng Nghymru mewn sefyllfa dda wrth i’r prif dymor gwyliau ddechrau. Mewn arolwg diweddar, dywedodd 87% o ymatebwyr eu bod yn ffyddiog am y tymor i ddod, gyda 33% o fusnesau’n dweud eu bod yn fwy proffidiol eleni mor belled o gymharu â 2016. Yn ôl 18% i fusnesau sydd wedi croesawu mwy o ymwelwyr, un o’r rhesymau am y cynnydd yw bod mwy o Brydeinwyr yn aros yn y DU.”

Cafwyd 15% yn fwy o  ymweliadau â Chymru yn 2016 o gymharu â 2015 – gan adeiladu ar dwf y ddwy flynedd ddiwethaf. Dymunaf dymor prysur a llwyddiannus i’r diwydiant.

Wrth sôn am y statws, dywedodd Pim Wolfs, y Rheolwr Cyffredinol: 

“Rydyn ni’n falch iawn o fod wedi derbyn statws pum seren gan Croeso Cymru. Fel gwesty, rydyn ni’n canolbwyntio ar ddarparu’r profiad gorau i’n gwesteion yn ogystal â hybu cynnyrch Cymreig, swyddi lleol a phopeth sydd gan gefn gwlad Cymru i’w gynnig. Mae’r sgôr pum seren yn gryn lwyddiant ac mae’n hyfryd bod Croeso Cymru wedi rhoi’r gydnabyddiaeth hon i ni.”