Yr adroddiad hwn yw cam terfynol y gwaith gwerthuso ac mae’n adeiladu ar ganfyddiadau’r adroddiad interim i nodi’r cynnydd a wnaed gyda’r dull Ariannu Hyblyg.
Dyma'r datganiad diweddaraf yn y gyfres: Gwerthuso’r Rhaglen Ariannu Hyblyg
Prif ganfyddiadau
Awdurdodau lleol a rhanddeiliaid
Mae cynnydd o ran defnyddio’r dull Ariannu Hyblyg i’w weld yn fwyaf amlwg yn y canlynol:
- gwell gwybodaeth ynghylch nodau, amcanion a’r ffordd y darperir y Grant Plant a Chymunedau a’r Grant Cymorth Tai a gwell ymwybyddiaeth ohonynt
- mwy a mwy o enghreifftiau o weithio ar y cyd neu weithio ar draws grantiau i’w gweld a mwy o drafod cyfleoedd ar gyfer gwneud hynny
- y gwaith sy’n cael ei wneud o ran ail-gomisiynu gwasanaethau a datblygu gwasanaethau newydd, er gwaethaf y rhwystrau cytundebol ac ariannol rhag ail-gomisiynu mewn rhai achosion
- adroddiadau am fanteision cefnogi defnyddwyr gwasanaethau’n fwy cyflym drwy gynnig gwasanaethau sy’n fwy cydlynol, a hynny wrth ymuno â gwasanaeth ac wrth ei adael.
Mae’r enghreifftiau mwyaf eglur o gynnydd i’w gweld lle maent yn seiliedig ar weledigaeth gref, a gweithgarwch manwl wrth ddylunio a chynllunio, sy’n sefydlu model lleol ar gyfer cyflenwi gwasanaethau sy’n rhoi lle canolog i atebolrwydd ac arweinyddiaeth drawsnewidiol.
Llywodraeth Cymru
- O fewn Llywodraeth Cymru mae angen penodol i wneud rhagor o waith o ran adolygu, ac ailosod, pan fo’n briodol, nod strategol Ariannu Hyblyg ac i fynegi hynny i bob awdurdod lleol.
- Mae swyddogion Llywodraeth Cymru (gan gynnwys y tîm Alinio Cyllid) yn nodi heriau ynghylch cydgysylltu a chyfathrebu negeseuon cyson mewn perthynas â sut y dylai pob rhaglen weithredu o fewn y Grant Plant a Chymunedau a’r Grant Cymorth Tai.
- Gwnaed cynnydd arbennig o gadarnhaol gan y Grant Cymorth Tai wrth i’r tîm ddatblygu ei ddogfennau cyfarwyddyd ar y cyd ag amryw o randdeiliaid allanol.
- Byddai’n syniad da i’r awdurdodau sydd wedi gwneud llai/y lleiaf o gynnydd gael rhagor o gefnogaeth a goleuni pellach ar ariannu hyblyg oddi wrth Lywodraeth Cymru ac awdurdodau eraill sydd wedi gwneud gwell cynnydd.
Argymhellion
Llywiodd y canfyddiadau allweddol nifer o argymhellion ar gyfer Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol a rhanddeiliaid. Gellir gweld y rhain yn yr Adroddiad Gwerthuso Terfynol.
Adroddiadau
Gwerthuso’r Rhaglen Ariannu Hyblyg: adroddiad terfynol , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 2 MB
Cyswllt
Sara Ahmad
Rhif ffôn: 0300 025 0331
Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.