Neidio i'r prif gynnwy

Nod cyffredinol y gwerthusiad hwn yw darparu gwybodaeth gadarn ac amserol am roi’r Rhaglen Ariannu Hyblyg ar waith.

Mae’r rhyddid ychwanegol hwn yn caniatáu ar gyfer dull gweithredu sy’n fwy strategol wrth ymyrryd yn gynnar, atal problemau a chefnogi.

Er ei bod yn dal yn ddyddiau cynnar ar y rhaglen Ariannu Hyblyg, sy’n golygu na ellir barnu eto a p’un a yw’r rhaglen yn llwyddiant, mae’r canfyddiadau interim yn dangos arwyddion a datblygiadau cadarnhaol. 

Dengys y canfyddiadau y themâu hyn:

  • ei bod yn dal yn gynnar o ran rhoi’r rhaglen ar waith; gweithgareddau adolygu sy’n cael y sylw ar hyn o bryd, ac mae achosion busnes yn dal i gael eu creu er mwyn symud ymlaen i roi’r rhaglen ar waith.
  • bod cynnydd, yn amlach na pheidio, yn gysylltiedig â ‘fframwaith’ neu broses sydd eisoes yn bodoli ar gyfer cyflawni agenda’r rhaglen.
  • bod llawer o awdurdodau lleol eisoes yn cydweithio ac yn defnyddio cyllid yn ‘hyblyg’. Eto i gyd, mae llawer o awdurdodau lleol yn anstrategol eu hagwedd at hyblygrwydd o ran cyllid.
  • bod ystod o ddulliau cyflenwi cynnar wedi canolbwyntio ar ddod â phobl ynghyd, hwyluso sgyrsiau ‘newydd’, adolygu ac asesu taith y defnyddiwr gwasanaethau. Mae rhai wedi darganfod nad yw’r seilwaith ar gyfer rheoli’r rhaglen (TG), fel y mae, yn rhoi’r wybodaeth gywir o ran profiadau defnyddwyr y gwasanaeth.
  • bod llawer o’r dulliau gweithredu cynnar yn eu lle cyn i wahanol raglenni gael eu rhoi ar waith, sy’n dangos gwaddol sylfaenol o weithio ar y cyd. Gwelir hyn ar ei fwyaf amlwg mewn awdurdodau lleol yn y gwasanaethau cymorth sy’n gysylltiedig â thai a’r gwasanaethau nad ydynt yn gysylltiedig â thai, yn enwedig grantiau – Teuluoedd yn Gyntaf, Dechrau’n Deg, y Gronfa Waddol a Cefnogi Pobl. 
  • ei bod yn hanfodol bod yr Uwch Dîm Arwain yn mabwysiadu nodau ac uchelgeisiau’r rhaglen Ariannu Hyblyg, yn enwedig y rhai hynny sy’n ysgogi cyflawni yn lleol, er mwyn symud ymlaen yn llwyddiannus. Rhaid i hyn fod ar draws sawl lefel, o’r lefel uchaf, i'r isaf er mwyn sicrhau bod y neges yn gyson.
  • bod rhai awdurdodau lleol yn gyndyn o fod yn arloesol oherwydd nad ydynt yn sicr bod Llywodraeth Cymru yn mynd i barhau ag Ariannu Hyblyg.
  • hyd yma, mae’r canlyniadau wedi cael eu cyfyngu i lefel awdurdod lleol. Mae hyn yn bennaf yn ymwneud â chychwyn grwpiau grantiau ar y cyd, ailstrwythuro sefydliadol a chydnabod newid o ran arferion gweithio, a chynigion eraill ar gyfer rhoi newid ar waith. Er hynny, mae’n bwysig nodi mai dim ond am gyfnod byr y mae’r Rhaglen Ariannu Hyblyg wedi bod yn gweithredu.

Adroddiadau

Gwerthuso’r Rhaglen Ariannu Hyblyg: adroddiad interim , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 2 MB

PDF
2 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.